Newyddion S4C

Dau yn y llys ar ôl i fachgen 15 oed gael ei saethu

Clos y Ffynnonn, Pontprennau

Mae dau berson o Fryste wedi ymddangos o flaen Ynadon Caerdydd ar ôl i fachgen 15 oed gael ei saethu.  

Daw hyn yn dilyn digwyddiad yn ardal Pontprennau o'r brifddinas ar ddechrau'r mis.  

Cafodd Ashley Corbin, sy'n 20 oed a bachgen 17 oed eu cadw yn y ddalfa.

Fe fydd y diffynydd 17 oed yn ymddangos gerbron Llys y Goron Caerdydd ar 18 Gorffennaf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.