Shamima Begum yn 'ddioddefwr masnachu mewn plant' medd ei chyfreithwyr

Mae cynrychiolwyr cyfreithiol Shamima Begum, a adawodd y DU i Syria yn ei harddegau i ymuno â grŵp y Wladwriaeth Islamaidd, wedi dweud ei bod wedi dioddef masnachu anghyfreithlon mewn plant, a’i bod wedi ei hecsbloetio'n rhywiol.
Teithiodd Ms Begum i Syria yn 2015. Fe gafodd ei dinasyddiaeth ei dileu ar sail diogelwch cenedlaethol yn 2019.
Mae gwrandawiad mewnfudo pum niwrnod o hyd yn cymryd lle yr wythnos hon i ystyried ymgais newydd i herio dileu ei dinasyddiaeth Brydeinig.
Mae'r Swyddfa Gartref yn mynnu ei bod yn parhau i fod yn fygythiad i ddiogelwch cenedlaethol.
Dywedodd cyfreithwyr Ms Begum, sydd bellach yn 23 oed, wrth y llys fod penderfyniad gan yr ysgrifennydd cartref ar y pryd, Sajid Javid, i ddileu ei dinasyddiaeth Brydeinig yn anghyfreithlon.
Mae hi’n parhau mewn gwersyll sy’n cael ei reoli gan warchodwyr arfog yng ngogledd Syria.
Rhagor yma.