Cwpan y Byd: Joe Allen allan o gêm gyntaf Cymru

Cwpan y Byd: Joe Allen allan o gêm gyntaf Cymru
Nid yw’r chwaraewr canol cae Joe Allen wedi ennill ei frwydr i fod yn barod ar gyfer gêm gyntaf Cymru yng Nghwpan y Byd yn erbyn yr UDA ddydd Llun.
Nid yw Allen, sy'n 32 oed, wedi chwarae i’w glwb Abertawe ers 17 Medi.
Mewn cynhadledd i'r wasg yn Doha brynhawn dydd Sul fe gadarnhaodd rheolwr Cymru Robert Page na fyddai Allen yn cymryd rhan.
Dywedodd Page: “Gallen fod wedi ei wthio, ond os yw e’n torri lawr yna mae allan o’r gystadleuaeth yn bendant.”
Darllenwch fwy yma.
Llun: CBDC