Airbus UK yn chwilio am fuddugoliaeth gyntaf yn ngemau penwythnos y Cymru Premier

Wedi penwythnos o gemau cyffrous yng Nghwpan Cymru, mae'r JD Cymru Premier Cymru yn dychwelyd gyda sawl gêm bwysig ar naill ochr y tabl.
Airbus UK (12fed) v Hwlffordd (9fed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Airbus yw’r unig dîm sydd eto i ennill gêm gynghrair y tymor yma ac mae Hogiau’r Maes Awyr yn dechrau’r penwythnos 16 pwynt tu ôl i ddiogelwch y 10fed safle.
Ond mae Airbus wedi sicrhau lle ym mhedwaredd rownd Cwpan Cymru ar ôl curo Trefelin y penwythnos diwethaf, a bydd tîm Jamie Reed yn mentro i Bontardawe yn y rownd nesaf.
Wedi pum colled yn olynol roedd ‘na ryddhad i’r Adar Gleision bythefnos yn ôl pan y daethon nhw a’r rhediad sâl i ben yn eu gêm ddiwethaf yn erbyn Y Fflint (Ffl 0-1 Hwl).
Mae Hwlffordd wedi ennill eu dwy gêm flaenorol yn erbyn Airbus, yn cynnwys eu buddugoliaeth gyfforddus ar Ddôl y Bont yn gynharach y tymor hwn (Hwl 3-0 Air).
Record cynghrair diweddar:
Airbus UK: ❌❌❌❌❌
Hwlffordd: ✅❌❌❌❌
Met Caerdydd (6ed) v Y Bala (3ydd) | Dydd Sadwrn – 14:30
Mae Met Caerdydd mewn perygl o lithro i hanner isa’r tabl am y tro cyntaf y tymor yma, ac hynny ar ôl colli chwech o’u wyth gêm gynghrair ddiwethaf.
Mae’r Bala ar y llaw arall wedi ennill naw o’u 11 gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth, gyda’r unig golled yn ystod y rhediad hwnnw yn dod yn erbyn y pencampwyr, Y Seintiau Newydd.
Seliodd Y Bala eu lle yn rownd nesaf Cwpan Cymru gyda buddugoliaeth o 2-0 gartref yn erbyn Y Fflint brynhawn Sadwrn, a bydd Hogiau’r Llyn yn croesawu Pontypridd i Faes Tegid yn y rownd nesaf.
Y Bala oedd yn fuddugol yn y gêm gyfatebol ym mis Medi hefyd (Bala 2-0 Met), a dyw Met Caerdydd heb sgorio yn eu tair gêm ddiwethaf yn erbyn criw Colin Caton.
Record cynghrair diweddar:
Met Caerdydd: ❌❌✅❌✅
Y Bala: ✅➖✅❌✅
Y Fflint (7fed) v Y Drenewydd (10fed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Pwynt yn unig sy’n gwahanu’r Fflint a’r Drenewydd gyda’r ddau glwb yn awyddus i geisio torri’n glir o’r ddau isaf a chau’r bwlch ar y Chwech Uchaf.
Ar ôl ennill eu dwy gêm agoriadol, gan gynnwys buddugoliaeth ar Barc Latham (Dre 0-2 Ffl), mae’r Fflint wedi stryffaglu gyda dim ond dwy fuddugoliaeth mewn 11 gêm gynghrair ers hynny, a’r ddwy yn erbyn Airbus UK sydd ar waelod y tabl.
Ers eu gêm ddi-sgôr yn erbyn Y Seintiau Newydd ar y penwythnos agoriadol dyw’r Drenewydd heb gadw llechen lân mewn 14 gêm ym mhob cystadleuaeth.
Ar ôl curo Aberystwyth ddydd Sadwrn bydd y Robiniaid yn herio’r Seintiau Newydd ym mhedwaredd rownd Cwpan Cymru, ond mae’r Fflint allan o’r gystadleuaeth yn dilyn eu colled yn erbyn Y Bala.
Record cynghrair diweddar:
Y Fflint: ❌❌✅❌➖
Y Drenewydd: ✅❌❌✅❌
Pen-y-bont (4ydd) v Y Seintiau Newydd (1af) | Dydd Sadwrn – 17:15 (S4C arlein)
Mae’r Seintiau Newydd saith pwynt yn glir ar frig y tabl, ac mae’r pencampwyr bellach ar rediad o 19 gêm gynghrair heb golli (ennill 17, cyfartal 2).
Ers eu gêm ddi-sgôr yn erbyn Y Drenewydd ar y penwythnos agoriadol mae’r Seintiau wedi ennill 12 gêm gynghrair yn olynol, a dyw’r clwb o Groesoswallt ond wedi colli un o’u 32 gêm ddiwethaf yn y Cymru Premier JD (YSN 0-1 Dre).
Yn ystod y rhediad hwnnw mae’r Seintiau wedi ennill 27 gêm, colli unwaith a chael pedair gêm gyfartal, gyda un o rheiny yn erbyn eu gwrthwynebwyr y penwythnos yma (YSN 3-3 Pen – 12/03/22).
Ond dyw Pen-y-bont heb ennill dim un o’u 13 gêm flaenorol yn erbyn Y Seintiau Newydd (cyfartal 2, colli 11), gyda’r golled ddiwethaf yn dod yn gynnar yn y tymor diolch i gôl hwyr Ryan Brobbel (YSN 1-0 Pen).
Ar ôl curo Conwy y penwythnos diwethaf bydd Pen-y-bont yn teithio i Gresffordd ar gyfer pedwaredd rownd Cwpan Cymru, tra bydd Y Seintiau Newydd yn croesawu’r Drenewydd i Neuadd y Parc.
Record cynghrair diweddar:
Pen-y-bont: ✅➖❌✅➖
Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅✅
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a bydd y gorau o gemau’r penwythnos i’w gweld ar S4C nos Lun am 10