Plant Mewn Angen: Pêl-fasged wedi newid bywyd plentyn â pharlys yr ymennydd

18/11/2022

Plant Mewn Angen: Pêl-fasged wedi newid bywyd plentyn â pharlys yr ymennydd

Mae Kai Hamilton-Frisby yn byw gyda pharlys yr ymennydd, ond nid yw hynny wedi ei atal rhag gwneud y gorau o fywyd.

Yn 16 oed, mae Kai yn chwarae pêl-fasged cadair olwyn i glwb Aberystwyth, ac mae newydd gwblhau her Rickshaw Plant Mewn Angen.

Bu rhaid i Kai seiclo o gwmpas ei ardal leol, Aberystwyth, a dywedodd ei fod wedi mwynhau'r profiad a'r gefnogaeth derbyniodd ar y daith.

"Roedd y profiad yn jyst, dydw i ddim yn gallu disgrifio e, llawer o cefnogi o'r pobl. Mae'n nhw'n rhoi arian i fi i wneud yr her. Roedd ni wedi mwynhau dros ben."

Mae Kai wedi bod yn chwarae pêl-fasged ers iddo fod yn saith oed, sydd wedi rhoi cyfle iddo gymdeithasu gyda phobl sydd hefyd gydag anableddau.

Dywedodd Kai fod y penderfyniad i chwarae pêl-fasged cadair olwyn wedi newid ei fywyd.

Image
Kai pel-fasged
Mae Kai wedi cynrychioli tîm pêl-fasged cadair olwyn Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad.

"Ma' pêl-fasged wedi newid fy bywyd, heb os nac oni bai. Mae'n bwysig achos mae'n rhoi cyfle dim i fi yn unig, ond gyda plant arall gyda anabledd hefyd.

"Ma' nhw'n gyfeillgar dros ben a ma' nhw'n cynhwysol hefyd. Rydw i'n cyfarfod llawer o pobol gwahanol, llawer o hanes gwahanol hefyd achos dydy anabledd ddim yn debyg o gwbl.

"So rydw i'n gallu cyfarfod llawer o pobol gwahanol gyda anabledd a ma'n rhoi teulu i fi."

Cyfraniad plant mewn angen

Mae elusen Plant Mewn yn cyfrannu arian i glwb pêl-fasged Aberystwyth, ac mae Kai yn ddiolchgar iawn iddynt am eu cyfraniad i'r clwb.

"Ma' Children In Need yn gweithio gyda'r pêl-fasged cadair olwyn a ma' nhw'n rhoi arian i ni i wneud sesiwn, i brynu cadair newydd ac i talu cyfleusterau hyfforddi hefyd."

Mae Kai wedi mwynhau ei brofiad gyda chlwb pêl-fasged cadair olwyn Aberystwyth, ac wedi cynrychioli Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn y gamp.

Mor dda mae ei brofiadau gyda'r clwb wedi bod, mae Kai eisiau gyrfa mewn hyfforddi chwaraeon anabledd.

"Yn y dyfodol hoffwn i fod yn hyfforddwr chwaraeon anabledd achos rydw i wedi cael profiad bendigedig gyda'r chwaraeon anabledd.

"Ma' nhw'n rhoi cyfle i fi i wneud chwaraeon a rydw eisiau rhoi rhywbeth nôl."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.