Newyddion S4C

Love Island: Gemma Owen a Luca Bish yn gwahanu

17/11/2022
Gemma a Luca

Mae Luca Bish a Gemma Owen wedi gwahanu tri mis wedi i gyfres Love Island ddod i ben. 

Roedd Luca a Gemma yn un o'r cyplau mwyaf sefydlog yn ystod y gyfres eleni, gan ddod yn bâr yn yr wythnosau cyntaf a phara hyd at y rownd derfynol. 

Ond daeth y cwpl yn ail yn dilyn y ffeinal, gan golli'r brif wobr i Davide Sanclimenti ac Ekin-Su Culculoglu.

Ar ôl gadael y fila, fe ddaeth y ddau yn gariadon ym mis Awst, gan bara gyda'i gilydd am dri mis cyn gwneud datganiad nos Fercher eu bod yn gwahanu. 

Mewn datganiad ar ei chyfrif Instagram, dywedodd Gemma, sydd yn ferch i'r pêl-droediwr Michael Owen, nad oedd y penderfyniad yn hawdd ond mai dyna oedd "y peth gorau i'r ddau ohonom ni ar hyn o bryd".

Ychwanegodd Luca ei fod wedi bod yn gyfnod "emosiynol" ac roedd ef a Gemma wedi "creu gymaint o atgofion anhygoel" gyda'i gilydd. 

Llun: ITV 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.