Newyddion S4C

Aelodau Llafur Ifanc yn anfodlon gydag ymweliad Mark Drakeford â Qatar

Newyddion S4C 16/11/2022

Aelodau Llafur Ifanc yn anfodlon gydag ymweliad Mark Drakeford â Qatar

Mae rhai aelodau ifanc o’r Blaid Lafur yng Nghymru’n galw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried eu penderfyniad i fynd i Qatar ar gyfer Cwpan y Byd.  

Mae'r Cynghorydd Bethan Williams, sydd yn 23 oed ac o Lanelli, yn “grac” ac yn “siomedig” gyda’i phlaid wrth ystyried record Qatar ar hawliau dynol a hawliau pobl hoyw yn y wlad. 

Fe fydd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford ynghyd â Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething yn bresennol yn y gemau yn Doha.  

Mae Mr Drakeford wedi dweud ei fod yn "benderfyniad anodd" i fynd i Gwpan y Byd.

'Siomedig' 

"Dwi ddim yn hollol hapus gyda'r penderfyniad. Ma' penderfyniad y Llywodraeth i fynd i Qatar bach yn lletchwith i fi,” meddai Bethan Williams.  

"Ma'n neud i fi deimlo bach yn grac, bach yn siomedig.   

“Ni fel plaid ni 'di cael hanes o orymdeithio a chreu deddfau i helpu pobl hoyw, i helpu gweithwyr a menywod, ac ma'r llywodraeth yn mynd i Qatar, it's kind of like back handed fel bo' nhw'n anghofio be' sy'n digwydd yn Qatar.”  

'Gormes'

Yn fyfyriwr ac yn aelod ifanc o’r blaid mae Dylan Lewis Rowlands yn cynrychioli myfyriwr Llafur Cymru ar Bwyllgor Cenedlaethol Myfyrwyr y blaid.  

Dywedodd wrth Newyddion s4c: "Ma' llawer fel fi, efo trafodaethau fi 'di ca'l ag aelodau, llawer ohonyn nhw sydd yn hoyw, llawer ohonyn nhw sydd yn draws neu be bynnag. Dydyn nhw ddim yn gweld hyn fel ffordd ymlaen,” meddai. 

"Ma nhw’n gweld e fel cyfiawnhau essentially be sy’n digwydd yn Qatar. Newn ni anwybyddu hynny, ond chi ddim yn gallu neud hynny a jyst ffocysu ar y gêm.

"Os byddwn i moen mynd i Qatar, fydden i o dan gymaint o ormes. Byddai dan gymaint o berygl." 

Fe fydd Keir Starmer, yr arweinydd Llafur yn San Steffan ac aelodau pennaf Llafur yn boicotio’r digwyddiad.  

Wrth gwestiynu penderfyniad Mark Drakeford mae Dylan Lewis Rowlands yn gofyn: “ble di loyalties ti? 

“Efallai fydd Mark yn gallu convinceo fi ffordd arall ond dwi ddim yn siŵr fydde fe’n gallu. 

“Ond yn lle mynd i Qatar, aros yma yng Nghymru i wneud gwaith polisi hawliau LGBTQ a hawliau gweithwyr."

'Penderfyniad anodd'

Dywedodd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford ei bod hi'n "benderfyniad anodd" i fynd, a bod dwy ochr i'r ddadl:

"Mae pethe i ddweud ar bob ochr o'r ddadl, alla i weld pam mae pobl yn credu maent wedi peidio mynd, ond ar ochr arall y ddadl, dydy cyfleon i Gymru yn mynd i Gwpan y Byd ddim yn dod bob tro a bydd llywodraethau eraill dros y byd yna yn Qatar ac i ni fel llywodraeth, mae'n bwysig i ni fod yna i gefnogi Cymru, i gefnogi'r tîm ond i ddefnyddio'r llwyfan sy'n dod atom ni."

Doedd Llafur Cymru ddim am wneud sylw pellach ar y mater ddydd Mercher

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.