'Penderfyniadau anodd' wrth i Jeremy Hunt gyhoeddi datganiad yr hydref
Fe fydd y Canghellor Jeremy Hunt yn gwneud datganiad ariannol yr hydref ddydd Iau.
Bydd hyn yn amlinellu penderfyniadau cyllidebol y llywodraeth ar gyfer y misoedd i ddod.
Mae'r Canghellor wedi dweud bod "penderfyniadau anodd" ar y gorwel, gan ddweud fod effeithiau chwyddiant uchel i'w teimlo mewn gwledydd ar draws y byd yn sgil rhyfel Vladimir Putin yn Wcráin.
Roedd Mr Hunt wedi ei benodi'n Ganghellor gan y cyn-Brif Weinidog, Liz Truss, wedi i'r marchnadoedd ariannol ymateb yn anffafriol i'w chyllideb fechan.
Mae rhai polisïau eisoes wedi eu cyhoeddi gan y Canghellor er mwyn ceisio rhoi sicrwydd i'r marchnadoedd hynny.
Mae'r rhan fwyaf o fesurau treth a gafodd eu cyhoeddi fel rhan o'r gyllideb fechan eisoes wedi eu dadwneud - oni bai am gael gwared ar yr Ardoll Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn Lloegr a newidiadau i'r Dreth Stamp.
Bydd cyfradd syml y dreth incwm yn parhau yn 20%, yn hytrach na chael ei dorri i 19%.
Roedd y Warant Pris Ynni i fod i barhau am ddwy flynedd, ond bydd adolygiad nawr yn cael ei gynnal i weld sut fydd y llywodraeth yn helpu gyda biliau ynni ar ôl mis Ebrill.
Mae Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru, Rebecca Evans, wedi dweud mai nawr yw'r amser "i fuddsoddi mewn pobl a gwasanaethau cyhoeddus".
"Mae pobl yn ei chael hi'n anodd talu eu biliau wrth i’r argyfwng costau byw gydio. Mae chwyddiant a phrisiau ynni sydd ar eu huchaf erioed yn lleihau cyllidebau'r sector cyhoeddus, wrth i’r galw am wasanaethau godi'n aruthrol. Mae'r economi yn dirywio, ac rydyn ni'n wynebu'r dirwasgiad hiraf ers y Dirwasgiad Mawr.
"Mae gan Lywodraeth y DU y grym cyllidol i ymateb i'r heriau hyn - a rhaid iddi wneud hynny yfory. Dyma'r amser i fuddsoddi mewn pobl a gwasanaethau cyhoeddus."
Mae Plaid Cymru hefyd wedi galw ar y Canghellor i warchod gwasanaethau cyhoeddus Cymru rhag chwyddiant.
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, Ben Lake AS: “Ynni, lles, iechyd, cyfiawnder, addysg – mae ein holl wasanaethau eisoes yn dioddef o danariannu cronig. Bydd mwy o doriadau i'r gwasanaethau hyn ond yn arwain at yr angen i ddarparu cyllid brys drutach yn y dyfodol.
“Yn hytrach nag ailadrodd camgymeriadau’r gorffennol, fe ddylai San Steffan heddiw warchod gwasanaethau Cymreig drwy roi gwarant y bydd ein cyllidebau yn cael eu gwarchod rhag chwyddiant.”
Llun: Trysorlys y DU