Newyddion S4C

Cwpan y Byd: Tîm pêl-droed Cymru yn teithio i Qatar

15/11/2022

Cwpan y Byd: Tîm pêl-droed Cymru yn teithio i Qatar

Bydd tîm pêl-droed Cymru yn teithio i Qatar brynhawn Mawrth ar drothwy Cwpan y Byd. 

Bydd carfan Rob Page yn teithio o Faes Awyr Caerdydd i Qatar, chwe diwrnod cyn chwarae eu gêm gyntaf yng ngrŵp B yn erbyn yr UDA. 

Ddydd Iau, cyhoeddodd Rob Page y garfan o 26 chwaraewr fyddai'n teithio i Gwpan y Byd.

Roedd yr enwau mawr i gyd wedi eu cynnwys, o Gareth Bale i Aaron Ramsey. 

Bydd chwaraewr canol cae CPD Abertawe, Ollie Cooper, hefyd yn teithio i Qatar yn ogystal â Jordan James fel chwaraewyr wrth gefn.

Yn ôl amddiffynnwr Cymru a Tottenham Hotspur, Ben Davies mae'n gyfnod rhagorol i bêl-droed Cymru: "Mae'n jyst amser cyffrous iawn i'r garfan i gyd ac i pawb o Gymru.

"'Da ni'n edrych ymlaen ato fe lot nawr, ac ma' fe yn wahanol bod e yn Cwpan y Byd. Ma' fe'n teimlo fel rhywbeth o'dd ddim rili yn bosib i Cymru, ond 'da ni yma nawr a 'da ni'n edrych ymlaen at dechrau.

"Ma' fe'n rhywbeth fi 'di bod yn breuddwydio am ers i fi'n ifanc, i warae dros Cymru yn Cwpan y Byd. So fe'n dod lot yn well 'na hwnna."

Allen yn gwella o'i anaf

Er bod pryderon wedi bod am ffitrwydd chwaraewr canol cae Cymru ac Abertawe, Joe Allen, dywedodd ei fod yn obeithiol o chwarae ddydd Llun nesaf.

"Mae'n gwella, diolch byth. 'Wi 'di bod yn rasio i cael fy hunan yn barod ac yn ffit ar gyfer Cwpan y Byd, wrth gwrs felly erbyn hyn, popeth wedi mynd yn dda iawn a gobeithio byddai'n ffit ar gyfer dechrau'r twrnament.

"Wedi bod yn anaf bach yn tricky i ddelio gyda ond fel dwedais i, dwi'n gwella ac bron yn barod nawr."

Bydd y garfan yn ymarfer am y tro olaf ar dir Cymru fore Mawrth yn Stadiwm Dinas Caerdydd cyn y bydd y chwaraewyr yn teithio i Faes Awyr Caerdydd.  

Dyma'r tro cyntaf ers 1958 i Gymru chwarae yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd, a byddant yn wynebu'r UDA ddydd Llun cyn mynd ymlaen i herio Iran a Lloegr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.