Cau nifer o ysgolion cynradd yng Nghaerdydd o achos diffyg cyflenwad dŵr
Fe fydd nifer o ysgolion cynradd yng Nghaerdydd ar gau ddydd Llun o ganlyniad i nam ar bibell ddŵr yn y ddinas.
Dywed Cyngor Dinas Caerdydd fod ysgolion cynradd Llanedern, Glan yr Afon, Bryn Hafod, St Bernadettes, Hollies, Pen y Groes, Bryn Celyn a Berllan Deg ar gau gan nad oes cyflenwad dŵr yn yr adeiladau.
O ganlyniad nid oes modd gwresogi'r ysgolion na darparu bwyd ac nid yw'r toiledau ar gael i'r disgyblion.
Dywed y cyngor fod gweithwyr Dŵr Cymru yn ceisio trwsio'r cyflenwad, ac mae rhai tai yn ardal cod post CF23 wedi eu heffeithio hefyd.
Cafodd swyddogion y cyngor alwad am 05:30 yn eu rhybuddio fod dau eiddo yn ardal Roundwood mewn perygl o ddioddef llifogydd, ac mae'r cyngor yn darparu cymorth i berchnogion y tai hyn.