Cystadleuaeth ymladd cymysg yr UFC i ddod i Gaerdydd?
Mae llywydd yr UFC, Dana White wedi trafod y posibilrwydd bod y gamp yn cynnal cystadleuaeth yng Nghaerdydd.
Mae UFC yn gystadleuaeth grefft ymladd cymysg, lle mae dau berson yn ymladd mewn tair rownd pum munud o hyd.
Yn dilyn noson UFC 281 yn Efrog Newydd nos Sul, fe wnaeth Dana White ymateb i gwestiwn gan newyddiadurwr am y posibilrwydd o gynnal noson yn Stadiwm y Principality.
Dywedodd: "Mae lot o bob wedi bod yn dweud wrthyf, "Caerdydd, Caerdydd, Caerdydd." Felly rydym yn edrych o ddifri ar hynny."
Yr unig bryder oedd gan White oedd y tywydd, ond ar ôl sylweddoli fod to gan Stadiwm y Principality oedd yn gallu cau doedd hyn ddim yn broblem meddai.
"Dwi'n caru Caerdydd, dwi'n caru'r syniad o gynnal y gamp yng Nghaerdydd. Nai weld os allai gyflawni noson yno."
Cardiff, Cardiff, Cardiff! 🏴
— UFC Europe (@UFCEurope) November 13, 2022
Next UFC stadium show heading to Wales?! @DanaWhite is on the case... pic.twitter.com/iRROF0tQRi