Newyddion S4C

Wyth wedi marw a 79 wedi eu hanafu mewn ffrwydrad yn Nhwrci

The Guardian 14/11/2022
Ffrwydrad Istanbul

Mae o leiaf wyth o bobl wedi marw a 79 person wedi eu hanafu yn dilyn ffrwydrad yn Istanbul, prifddinas Twrci.

Dywedodd yr awdurdodau fod y ffrwydrad mewn ardal brysur o’r ddinas brynhawn dydd Sul.

Mae Gweinidog Mewndir Twrci wedi cyhuddo pobl Cwrdeg milwriaethus yng ngogledd Syria o achosi'r ffrwydrad.

Ychwanegodd fod un person wedi cael ei arestio, tra bod 21 o bobl eraill yn y ddalfa.

Dywedodd Gweinidog Cyfiawnder Twrci, Bekir Bozdağ fod "menyw wedi eistedd ar fainc am 45 munud" a bod y ffrwydrad wedi digwydd eiliadau wedi iddi adael.

Mae Arlywydd Twrci, Recep Tayyip Erdogan wedi dweud y bydd y rhai sydd yn gyfrifol yn cael eu cosbi.

Darllenwch ragor yma.

Llun: Wochit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.