O leiaf chwech wedi marw mewn ffrwydrad yn Nhwrci

Mae o leiaf chwech o bobl wedi marw yn dilyn ffrwydrad yn Istanbul, prifddinas Twrci.
Dywedodd yr awdurdodau yno fod dros 50 o bobl wedi eu hanafu yn y ffrwydrad mewn ardal brysur o’r ddinas brynhawn dydd Sul.
Nid oes cadarnhad eto beth oedd achos y ffrwydrad.
Dywedodd arlywydd Twrci Recep Tayyip Erdogan fe fyddai’r rhai oedd yn gyfrifol yn cael eu cosbi.
Darllenwch fwy yma.
Llun: Wochit