Damwain bws yn cau ffordd fawr yng Ngheredigion
12/11/2022
Heddlu.
Mae 15 o bobl wedi derbyn triniaeth yn dilyn gwrthdrawiad yng Ngheredigion prynhawn dydd Sadwrn.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw ar ôl i fws a char fod mewn gwrthdrawiad ar ffordd yr A487 rhwng Aberystwyth a Bow Street am tua 15:45.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru fod 15 o bobl wedi eu trin gan barafeddygon.
Roedd pawb wedi gallu dod allan o’r bws ac yn ôl adroddiadau nid yw eu hanafiadau yn peryglu bywyd.
Bu’n rhaid i Heddlu Dyfed Powys gau’r ffordd oherwydd y gwrthdrawiad ac mae'r llu wedi annog gyrwyr i osgoi'r ardal.