Negeseuon o gefnogaeth gan blant o Gaerdydd ar furiau ysbyty yn Wcráin

Negeseuon o gefnogaeth gan blant o Gaerdydd ar furiau ysbyty yn Wcráin
Ar furiau un ysbyty plant yn ninas Chernihiv yn Wcráin mae yna negeseuon o gefnogaeth a chyfeillgarwch gan blant o Gaerdydd.
Mae hynny’n destun balchder mawr i blant ac athrawon yr Ysgol Gynradd Babyddol Sant John Lloyd.
“Oedden nhw moyn creu negeseuon o obaith,” meddai Bethan Davies, athrawes yn yr ysgol.
“O'r meithrin lan at blwyddyn 6 nath pob plentyn greu rhywbeth bach, fel bod y plant yn y Wcráin yn gwybod fod ni fan hyn yng Nghymru yn meddwl amdanyn nhw.
“Fe wnaethon ni galonnau bach ciwt, gyda neges ym mhob un, a hynny i roi cefnogaeth iddyn nhw,” eglura Anna.
Cynnig gobaith o’r plant oedd nod y disgyblion yn ôl Neve.
“Rydyn ni'n gwybod eu bod nhw'n mynd trwy lawer. Byddent wedi colli rhai o'u teulu a'u ffrindiau, ac na hoffai unrhyw blentyn gael ei adael ar ei ben ei hun. Felly dyma benderfynu rhoi rhywfaint o obaith iddyn nhw, a rhywfaint o gariad a gofal.”