Chwaraewr CPD Abertawe Ollie Cooper i deithio gyda Chymru i Qatar
11/11/2022
Bydd chwaraewr canol cae CPD Abertawe, Ollie Cooper, yn teithio i Qatar gyda charfan bêl-droed Cymru.
Daw'r newid wedi i Luke Harris benderfynu peidio â theithio i Gwpan y Byd "am resymau personol".
Bydd yn teithio fel chwaraewr wrth gefn a fedrai ymuno â'r garfan 26 dyn pe bai angen ac fe fydd yn teithio i Qatar ddydd Mawrth.
Bydd Jordan James sy'n chwarae i Birmingham City hefyd yn teithio fel chwaraewr wrth gefn.
Daw'r cyhoeddiad wedi i reolwr Abertawe, Russell Martin, fynegi ei siom nad oedd Cooper wedi ei gynnwys fel rhan o'r garfan a fydd yn mynd i Qatar.