Gwaith yn dechrau ar barc diwydiant carbon isel yn Sir Gâr
Fe fydd gwaith adeiladu yn dechrau ar barc diwydiant carbon isel newydd gwerth £12m yn Sir Gaerfyrddin ddydd Iau.
Mewn partneriaeth gyda Chyngor Sir Gaerfyrddin a'r Ganolfan Adeiladu Gweithredol, fe fydd Llywodraeth Cymru yn adeiladu swyddfeydd a mannau diwydiant ysgafn yn Cross Hands.
Mae'r llywodraeth wedi disgrifio'r prosiect, sydd yn cynnwys tri adeilad newydd, fel "safle cyflogaeth gynaliadwy" gyda'r bwriad o helpu busnesau lleol i dyfu.
Fe fydd y safle hefyd yn defnyddio technoleg newydd er mwyn cyrraedd "safon garbon sero net."
Bydd trydan ar y safle yn cael eu cynhyrchu gan ynni adnewyddadwy ac fe fydd yr adeiladau yn cael eu hinswleiddio'n ddwys i leihau costau a chynyddu effeithlonrwydd egni.
Wrth i'r gwaith ddechrau ar y prosiect newydd, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughn Gething: "Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd camau pendant i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, fel ein bod yn sicrhau dyfodol gwyrdd gwell ar gyfer ein gwlad.
"Rydyn ni hefyd yn gweithio i wireddu'r diwydiannau gwyrdd perfformiad uchel ar gyfer y dyfodol a fydd yn creu swyddi o ansawdd uchel ar gyfer pobl yn eu cymunedau lleol.
"Mae darparu mannau busnes o'r radd flaenaf yn ganolog i'r weledigaeth honno – ac mae'n hanfodol ein bod yn gwneud hyn mewn ffordd sy'n cyfrannu at ein cynlluniau datgarboneiddio uchelgeisiol. Mae'r datblygiad hwn yn gwneud yn union hynny, drwy ddangos nodweddion carbon isel gwych."
Llun: Llywodraeth Cymru