Cipolwg ar gemau nos Wener Cwpan Cymru JD

Mae’n benwythnos trydedd rownd Cwpan Cymru JD a bydd 10 o glybiau’r uwch gynghrairynghŷd â 22 o glybiau’r adrannau îs yn brwydro am le yn y bedwaredd rownd.
Y Seintiau Newydd v Caernarfon | Nos Wener – 19:45
Y Seintiau Newydd yw deiliaid Cwpan Cymru ar ôl codi’r tlws am yr wythfed tro yn eu hanes y tymor diwethaf.
Ond cael a chael oedd hi i gewri Croesoswallt yn y rownd ddiwethaf gyda’r Seintiau yngorfod dibynnu ar giciau o’r smotyn i guro’r Waun wedi i’r gêm orffen yn 1-1 wedi 90 munud.
Ers y gêm honno yn yr ail rownd mae tîm Craig Harrison wedi ennill pum gêm gynghrair yn olynol gan sgorio 17 o goliau ac ildio dim ond unwaith.
Enillodd Caernarfon yn gyfforddus yn erbyn Mynydd y Fflint yn yr ail rownd (Myn 0-4 Cfon), ac ar ôl cyrraedd y rownd gynderfynol bum gwaith yn eu hanes bydd y Cofis yn awyddus i fynd gam ymhellach eleni a sicrhau eu lle yn y rownd derfynol am y tro cyntaf erioed.
Ond dyw’r Canerîs heb ennill dim un o’u naw gêm ddiwethaf yn erbyn Y Seintiau Newydd(colli 8, cyfartal 1) a dyw’r Seintiau heb golli gêm ddomestig yn Neuadd y Parc ers mis Mawrth.
Gemau eraill nos Wener: Penydarren v Adar Gleision Trethomas.