Canlyniadau etholaethol y Democratiaid yn 'ddiwrnod da i America' medd Joe Biden

Canlyniadau etholaethol y Democratiaid yn 'ddiwrnod da i America' medd Joe Biden
Mae canlyniadau cadarnhaol y Democratiaid yn etholiadau canol tymor yr UDA yn "ddiwrnod da i America", yn ôl Arlywydd Joe Biden.
Mae'r etholiadau canol tymor ar gyfer dewis aelodau Tŷ’r Cynrychiolwyr a 35 o'r 100 sedd yn y Senedd, ac maen nhw'n cael eu hystyried fel ffordd o fesur poblogrwydd yr Arlywydd.
Mae'r blaid sy'n llywodraethu fel arfer yn wynebu colledion sylweddol yn yr etholiadau, ond er gwaethaf y rhagolygon y byddai'r Gweriniaethwyr yn profi llwyddiant, y disgwyl yw mai saith sedd yn unig y bydd y Democratiaid y eu colli.
Gyda chanlyniadau tair talaith ar ôl i'w cyhoeddi, mae'r frwydr ar gyfer rheoli'r Senedd yn parhau yn y fantol.
Mae'r Gweriniaethwyr wedi hawlio 49 sedd tra bod y Democratiaid wedi cipio 48 sy'n golygu mai dwy sedd sydd eu hangen ar y Gweriniaethwyr i gipio'r Senedd yn ôl o afael plaid Joe Biden.
Ychwanegodd Mr Biden y byddai'n penderfynu os y bydd yn sefyll eto ar gyfer ail dymor fel arlywydd yn fuan y flwyddyn nesaf.
Rhagor yma.