Malcom Allen ac Osian Roberts yn ymuno a thîm cyflwyno S4C yn Qatar
Mae S4C wedi cadarnhau dau aelod newydd i'w tîm cyflwyno Cwpan y Byd FIFA 2022, gydag Osian Roberts a Malcolm Allen yn ymuno.
Bydd Roberts, cyn is-reolwr Cymru ac is-reolwr presennol i Patrick Vieira yn Crystal Palace, ac Allen, cyn-ymosodwr Cymru sydd â 14 cap i'w enw, yn cymryd eu lle yn nhîm dadansoddi S4C yn ystod y bencampwriaeth.
Bydd Osian a Malcolm yn ymuno ag Owain Tudur Jones yn y tîm dadansoddi, gyda Dylan Ebenezer yn cyflwyno, Sioned Dafydd yn ohebydd a Nic Parry a Gwennan Harries yn y blwch sylwebu.
Bydd S4C yn darlledu pob un o gemau Cymru yn fyw yn ystod Cwpan y Byd FIFA, gan gychwyn gydag UDA v Cymru ar nos Lun 21 Tachwedd am 6.00yh.
Dywedodd Osian Roberts, aelod allweddol o dîm hyfforddi Cymru yn yr ymgyrch bythgofiadwy yn Euro 2016: "Mae'r tîm yma wedi cyflawni rhywbeth arbennig iawn drwy gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd FIFA ac mae Rob Page yn haeddu clod anferthol am hynny.
"Ond mi fydd y chwaraewyr yn benderfynol o ddangos i'r byd beth maen nhw'n gallu gwneud a beth mae cynrychioli eu gwlad yn ei olygu iddyn nhw.
"Rydw i'n edrych ymlaen yn arw i fod yn Qatar fel rhan o dîm Cwpan y Byd S4C."
'Sioe fwyaf y byd'
Dywedodd Malcolm Allen: "Ar ôl dod mor agos i gyrraedd Cwpan y Byd fel chwaraewr, dwi mor falch i fod yno yn 2022, yng nghanol sioe fwyaf y byd.
"Dyma'r llwyfan mae pawb eisiau bod arno a dw i'n edrych ymlaen at fod yn rhan o dîm S4C a rhoi'r iaith Gymraeg ar y map.
"Mae gen i fydd a hyder yn Rob Page a'r tîm a dwi'n gobeithio gweld yr hogiau yn mynd yr holl ffordd i'r ffeinal.
"Fel Cymro balch, dwi mor gyffrous i fod yn rhan fach o achlysur anferthol yn hanes ein gwlad."