Meta: Perchennog Facebook ac Instagram i ddiswyddo 11,000 o staff
Mae'r cwmni sy'n berchen ar Facebook ac Instagram wedi cyhoeddi y bydd 11,000 o bobl yn cael eu diswyddo.
Mae hyn yn lleihad o tua 13% o faint gweithlu Meta yn fyd-eang.
Dywedodd perchennog y cwmni, Mark Zuckerberg, ei fod yn gwybod fod hyn yn "anodd i bawb" a'i fod yn ddrwg ganddo i'r sawl sydd wedi eu heffeithio gan y toriadau.
Ychwanegodd fod y cwmni wedi cynyddu ei fuddsoddiad yn ystod y pandemig wrth i'r byd droi at y we.
Ond, er bod "nifer o bobl wedi darogan y byddai hyn yn barhaol", mae Mr Zuckerberg yn dweud fod masnach ar-lein wedi dychwelyd i lefelau tebyg i cyn y pandemig.
Mae hefyd yn dweud fod "cynnydd mewn cystadleuaeth" hefyd wedi arwain at elw "tipyn yn is na'r disgwyl".
Dywedodd y perchennog ei fod yn "anghywir am hyn" a'i fod yn "cymryd cyfrifoldeb am hynny".