Guto Harri: Gallai newyddiaduraeth yng Nghymru fod yn 'fwy cyhyrog'

09/11/2022
Guto Harri YBYEL

Fe allai newyddiaduraeth yng Nghymru fod yn "fwy cyhyrog", yn ôl cyn-gyflwynydd Y Byd yn ei Le, Guto Harri.

Roedd Mr Harri yn siarad gyda'r Pwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan ddydd Mercher am y tro cyntaf ers iddo wasanaethu fel Cyfarwyddwr Cyfathrebu Boris Johnson yn nyddiau olaf ei brif weinidogaeth.

Dywedodd y cyn-newyddiadurwr wrth y pwyllgor fod Y Byd yn ei Le wedi “ceisio gwneud pethau’n wahanol” yng Nghymru.

“Fe allai newyddiaduraeth yng Nghymru fod yn llawer mwy cyhyrog nag yw e, yn llawer mwy ymchwiliol," meddai.

"Fe ddylai gwneud gwleidyddion yng Nghaerdydd yn anghyfforddus.  Dwi newydd wynebu’r wasg a’r cyfryngau mwyaf milain yn y byd gellir dadlau yma yn Llundain ac mae’r Prif Weinidog y gwnes i ei wasanaethu bob amser wedi bod yn glir iawn ei fod eisiau gwasg gref, oherwydd mae gwasg gref, annibynnol sydd yn barod i’ch cicio a’ch dal i gyfrif yn rhan o rywbeth sy’n gyrru ein democratiaeth i wneud gwell benderfyniadau."

Ond yn ôl Mr Harri, dydy'r wasg a'r cyfryngau ddim yn dal y llywodraeth ym Mae Caerdydd i gyfrif yn yr un modd.

“Dwi ddim yn siŵr fod y wasg a’r cyfryngau yng Nghaerdydd ac ar draws Cymru yn ddigon cryf i gwestiynu, wrth ddal y llywodraeth yng Nghaerdydd i gyfrif fel y dylen nhw, nac yn ddigon cadarn o lawer ag y mae’r wasg a’r cyfryngau yma yn dal y llywodraeth Geidwadol i gyfrif," meddai.

“Yn Llundain mae adran bapur newyddion gref ac mae golygyddion neilltuol ond maen nhw’n dueddol o beidio ofni eu barn a pheidio ofni cyfleu eu barn o’r byd a does gennym ni ddim gwasg annibynnol yng Nghymru."

Ychwanegodd nad oedd y dirwedd o ran y wasg yng Nghymru yn cynnwys yr un amrywiaeth ag yn Llundain.

“Maen nhw’n gwneud eu gorau ond does dim Spectator i ddechrau, does dim Telegraph, does dim Mail, does dim unrhyw beth felly i gyflyru’r dirwedd ac yna beth sydd gennych chi yw presenoldeb blaenllaw iawn cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus, sydd nawr ag adnoddau da iawn.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.