Newyddion S4C

Ta-ta Twitter? Y cyfrwng cymdeithasol Mastodon yn tyfu mewn poblogrwydd

08/11/2022
Mastodon

Mae Mastodon wedi dod yn fwy amlwg yn ystod y dyddiau diwethaf wedi i nifer o bobl gefnu ar y cyfrwng cymdeithasol Twitter.

Fe ddaeth y dyn busnes Elon Musk yn berchennog ar Twitter bythefnos yn ôl gan roi nifer o newidiadau ar waith, gan gynnwys diswyddo rhan o'r gweithlu.

Mae Mastodon yn dweud eu bod yn cynnig cyfrwng cymdeithasol na all gael ei brynu gan filiynydd ac yn dweud na ddylai gallu pobl i gysylltu â'i gilydd fod yn nwylo un cwmni masnachol.

Mae Mastodon wedi ei ddatblygu gan sefydliad nid-er-elw Almaenig sy'n galluogi i gymunedau, unigolion a sefydliadau i gynnal cyfrwng cymdeithasol eu hunain.

Mae'n gyfrwng cymdeithasol sydd heb un man canolog sy'n golygu nad oes gallu gan Mastodon i ddangos hysbysebion, i dracio data na gorfodi rheolau.

Bydd unrhyw un sy'n ymuno â'r gwasanaeth yn gorfod creu gweinydd i greu cyfrif arno, yn yr un modd â mae pobl yn dewis darparwr e-bost.

Bydd modd i unrhyw un ddilyn a siarad gyda phobl ar draws y rhwydwaith, ond mae rhai defnyddwyr newydd wedi lleisio eu rhwystredigaeth gyda chymhlethdod y drefn o ymuno gyda'r gwasanaeth o gymharu gyda Twitter.

Mae'r cyfrwng cymdeithasol hefyd yn dweud eu bod yn cynnig uchafswm o 500 nod a'r gallu i olygu negeseuon ar ôl eu cyhoeddi.

Mae Elon Musk yn ystyried nifer o newidiadau i Twitter, gan gynnwys codi tal o £7.00 er mwyn cael tic glas i ddangos cyfrifon cydnabyddedig.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.