Miliynau o gartrefi i dderbyn ail daliad argyfwng costau byw
O ddydd Mawrth ymlaen, fe fydd wyth miliwn o gartrefi yn derbyn y taliad diweddaraf gan Lywodraeth y DU er mwyn lleddfu'r argyfwng costau byw.
Cafodd pecyn o gymorth gwerth £650m ei gyhoeddi ar gyfer pobl ar fudd-daliadau gan Rishi Sunak, a oedd yn Ganghellor ar y pryd, ym mis Mai eleni.
Yn ôl y llywodraeth, mae hyn yn rhan o ymdrech i gefnogi'r bobl fwyaf bregus wrth i filiau gynyddu yn sgil yr argyfwng costau byw.
Mae aelwydydd cymwys yn cynnwys rhai sydd yn derbyn Credyd Cynhwysol, credyd treth, neu fudd-daliadau pensiwn.
Cafodd taliadau cyntaf y cynllun eu gwneud yn uniongyrchol i gyfrifon banc pobl ym mis Gorffennaf.
Fe fydd rhan fwyaf o gartrefi nawr yn derbyn yr ail daliad gwerth £324 erbyn 23 Tachwedd, heblaw am bobl sydd yn derbyn credyd treth, fydd yn derbyn y taliad erbyn diwedd y mis.