Carcharu dyn o Flaenau Ffestiniog am gam-drin anifeiliaid
Carcharu dyn o Flaenau Ffestiniog am gam-drin anifeiliaid
Mae dyn o Wynedd wedi'i ddedfrydu i garchar am 24 wythnos am gam-drin anifeiliaid.
Fe wnaeth David William Lloyd Thomas, o Fferm Cwm Bowydd ym Mlaenau Ffestiniog, bledio'n euog i droseddau yn erbyn y Ddeddf Lles Anifeiliaid yn ystod gwrandawiad ar 10 Hydref.
Fe wnaeth mab Mr Thomas, Carwyn Lloyd Fazakerley, 18, hefyd bledio'n euog i droseddau lles anifeiliaid.
Roedd y ddau wedi'u cyhuddo o fethu â chwrdd ag anghenion neu gynnal amgylchedd addas ar gyfer 29 o gŵn ar eu fferm yng Ngwynedd.
Fe wnaeth Mr Thomas hefyd bledio'n euog i achosi dioddefaint diangen i anifail a thorri gwaharddiad blaenorol yn ei erbyn.
Cafodd y dyn 56 oed, sydd yn brif heliwr Helfa Dwyryd, ei ddedfrydu i 24 wythnos mewn carchar yn Llys Ynadon Llandudno ddydd Llun. Cafodd Mr Thomas hefyd ei wahardd rhag cadw cŵn am ddeng mlynedd.
Cafodd ei fab Mr Fazakeley ei ddedfrydu i 160 awr o wasanaeth cymunedol ac mae e hefyd wedi'i wahardd rhag cadw cŵn am ddeng mlynedd.
Cafodd Thomas ei garcharu yn 2018, ar ôl cael ei gyhuddo o droseddau lles anifeiliaid yn ymwneud â hel moch daear ac ymladd cŵn.
Fe fydd elusen yr RSPCA yn ceisio ail-gartrefi'r cŵn a gafodd eu darganfod ar y fferm, wedi'r achos diweddaraf.