Twitter yn cadarnhau codi tâl am wiriad y tic glas

Mae cwmni Twitter wedi cadarnhau y bydd defnyddwyr yn gallu prynu statws gwirio’r tic glas.
Fe fydd hyn ar gael i ddefnyddwyr am dâl o $7.99 (£7) y mis.
Mae’r newid ym mholisi’r cwmni yn ddadleuol gyda phryderon y gallai’r cyfrwng cymdeithasol roi cyfle i nifer fawr o gyfrifon ffug.
Mae statws y tic glas wedi ei ddefnyddio i ddangos fod proffil y defnyddiwr yn ddilys ac yn fodd o adnabod gwybodaeth ddibynadwy.
Mae hyn yn dilyn cyhoeddiad gan y dyn busnes, Elon Musk, i ddiswyddo bron i hanner gweithwyr Twitter.
Mae’r biliwnydd bellach wedi cwblhau ei bryniant o’r wefan a’r gwasanaeth cymdeithasol am $44bn (£38.7bn).
Dywedodd fod ganddo “ddim dewis” oherwydd bod Twitter yn colli $4miliwn (£3.5miliwn) y dydd.
Darllenwch fwy yma.