Dim modd teithio i Gaerdydd i gêm rygbi Cymru er gwaethaf gohirio streiciau trên Undeb RMT
Ni fydd modd i gefnogwyr Cymru deithio ar drên er mwyn cyrraedd y brifddinas ar gyfer gêm Cymru yn erbyn Seland Newydd.
Er gwaethaf cyhoeddiad RMT bod y streiciau yn cael eu gohirio wedi i Undeb RMT "sicrhau trafodaethau trylwyr" gyda pherchnogion rheilffyrdd, ni fydd gwasanaethau i mewn ac allan o Gaerdydd.
Dywedodd llefarydd ar ran Trafnidiaeth Cymru: "Ni ddylai pobl sydd yn mynychu'r gêm rhwng Cymru a Seland Newydd yn Stadiwm y Principality ar 5 Tachwedd deithio i mewn neu allan o Gaerdydd ar drên, er gwaethaf gohiriad streiciau.
"Oherwydd bod y cyhoeddiad wedi dod ar fyr rybudd, nid yw'n bosib i'n gwasanaethau cael eu cynnal ddydd Sadwrn, 5 Tachwedd. Bydd y rhan fwyaf o drenau rhwng Cymru a'r arfordir dal ddim yn rhedeg, gyda'r potensial i redeg gwasanaethau cyfyngedig o ddwyrain Caerdydd i'r Cymoedd."
Mi fydd angen i gefnogwyr sydd yn bwriadu teithio i'r brifddinas ddarganfod ffyrdd eraill o deithio.
Roedd y streiciau oedd fod i gael eu cynnal ar 7 a 9 Tachwedd, hefyd wedi eu canslo.
Pe bai'r streiciau wedi mynd yn eu blaen, byddai gwasanaethau trên ar draws Cymru wedi eu heffeithio gan mai Network Rail sy'n gyfrifol am seilwaith y rheilffyrdd.
Mae'r undeb wedi yn galw am gyflogau ac amodau gwaith gwell i weithwyr Network Rail ac mae'r anghydfod yn parhau a bydd trafodaethau pellach yn cael eu cynnal.
Nid oes anghydfod uniongyrchol rhwng Undeb RMT a Thrafnidiaeth Cymru.