Mam yn teithio i Wlad Belg i achub ei babi yn y groth 

04/11/2022

Mam yn teithio i Wlad Belg i achub ei babi yn y groth 

Mae mam o Garmel ger Caernarfon wedi trafod ei phrofiad o deithio i Wlad Belg er mwyn i’w babi gael llawdriniaeth yn y groth yn 26 wythnos oed. 

Wrth siarad â Newyddion S4C dywedodd Manon Jones: “Ddaru ni ddarganfod bod gan Nansi 'Spina Bifida Myelomeningocele' a hefyd oedd ganddi fluid ar yr ymennydd ag oedd ganddi 'Chiari Malformation', oedd yn golygu bod yr ymennydd wedi cael ei llusgo lawr i’r gwddf."

Roedd cymhlethdodau ar ymennydd Nansi yn golygu nad oedd sicrwydd y byddai hi’n gallu anadlu ar ei phen ei hun. 

“Ella bysa Nansi ddim yn gallu survivio’r pregnancy neu survivio wedyn ar ôl dod allan.

“Gathon ni gynnig mynd am lawdriniaeth yn Gwlad Belg pan o’n i’n disgwyl Nansi er mwyn cael gwared o'r fluids a dyna nathon ni.”

'Tynnu'r groth allan' 

Roedd hi’n llawdriniaeth fawr i Manon a Nansi. Mae ystadegau yn dangos bod un ymhob 100 o fabanod ddim yn goroesi’r llawdriniaeth.

“Ond oedda’n ni’n meddwl mai dyna oedd y siawns gora i Nansi, felly nathon ni fynd am y fetal surgery yn Belgium. 

“Pan oedd Nansi yn 26 wythnos ddaru nhw dynnu'r womb allan ohona fi i operatio ar Nansi ac wedyn rhoi hi nôl a cau fi fyny.” 

Roedd llawdriniaeth Nansi yn llwyddiant ac fe gyrhaeddodd Nansi yn saff yn 34 wythnos oed. 

Image
S4C
Fe groesawodd Guto a Manon eu merch Nansi yn saff i'r byd mis Mawrth 2022. 

Mae Nansi yn parhau i fyw gyda’r cyflwr 'Spina Bifida' sy’n golygu nad yw hi'n gallu symud ei choesau. 

“I fi a Guto, os dydi hi ddim yn gallu cerdded, 'di ddim yn gallu cerdded a geith hi dal fywyd grêt.

“’Da ni ddim yn gweld bod hynny am rwystro hi i gwbl.”

Image
S4C
Mae spina bifida yn gyflwr sy'n effeithio ar yr asgwrn cefn.

Mae Nansi yn derbyn therapi ysgogi symudiad asgwrn cefn dros y we bob pythefnos sy’n costio bron i £300 y sesiwn. 

“'Da ni wedi cychwyn therapi efo therapist o America, sy’n golygu bod peiriant sy’n mynd ar ei chefn yn gyrru fatha electrig current trw’r cyhyrau fatha fysa nerf iach yn neud. 

“Mae o yn stimulation ac yn helpu circulation, teimlad a gobeithio muscle tone yn diwadd.” 

“Dydi’r therapi ddim ar gael yn y wlad yma, mae o mor newydd a felly dydi’r NHS ddim yn cynnig o felly da ni wedi setio fyny 'GoFundMe' i helpu efo’r gost.”

'Surreal'

Image
S4C
Mae Manon a Guto "mor falch o'i merch arbennig".

Erbyn hyn mae Nansi yn 7 mis oed ac yn mynd o nerth i nerth.

“Dwi'n teimlo mor mor lwcus achos da ni wedi dod dros bob dim a ma’ hi yma yn saff wan. Ond weithia dwi’n meddwl ydy hyn i gyd wedi digwydd go iawn?

“Mae o jyst yn surreal, ond ma’ sbïo arni yn hapus yn neud o gyd werth o i gal hi yma wan.”
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.