Bounty yn cael ei dynnu o focs siocled Celebrations

Bydd fersiwn o'r bocs siocled Celebrations yn cael ei werthu fydd ddim yn cynnwys Bounty.
Mae'r cwmni cynhyrchu Mars Wrigley wedi gwneud y penderfyniad ar ôl darganfod bod 39% o bobl ddim yn hoff o'r siocled.
Ers peth amser mae dadl wedi bod a ddylai'r siocled cneuen goco gael ei gynnwys yn y bocs siocled, ac eleni mae gan y bobl cyfle i brynu rhai heb y Bounty.
Bydd y bocsys sydd ddim yn cynnwys Bounty yn cynnwys mwy o Mars, Snickers, Milky Way, Galaxy a Maltesers i lenwi'r bwlch.
Darllenwch fwy yma.