Sgoriwr un o goliau mwyaf eiconig Cwpan yr FA, Ronnie Radford wedi marw
Mae cyn-chwaraewr Casnewydd a sgorwyr un o goliau mwyaf eiconig yn hanes Cwpan yr FA, Ronnie Radford wedi marw.
Fe wnaeth un o'i gyn-glybiau, Hereford FC, gyhoeddi ei farwolaeth yn 79 oed ar y cyfryngau cymdeithasol ddydd Mercher.
Roedd Ronnie Radford wedi chwarae i nifer o glybiau gwahanol yn ystod ei yrfa, gan gynnwys Leeds United a Sheffield Wednesday.
Ymunodd â Chasnewydd yn 1969, a chafodd ei enwi'n chwaraewr y flwyddyn y clwb yn ei flwyddyn gyntaf.
Wedi iddo chwarae 68 gêm a sgorio saith gôl, symudodd yn agosach i'w gartref, drwy ymuno â Hereford FC.
Dyma'r cyfnod lle sgoriodd un o goliau mwyaf eiconig yn hanes Cwpan yr FA, a ddaeth mewn gêm yn erbyn Newcastle United.
Roedd Newcastle United yn chwarae yn yr uwch gynghrair ar y pryd, a Hereford FC yn y pumed haen. Roedd y gêm gyntaf yn Newcastle wedi gorffen gyda'r sgôr yn 2-2, oedd yn golygu byddai gêm arall i benderfynu'r enillwyr yn cael ei chwarae yn Henffordd.
Sgoriodd Ronnie Radford chwip o gôl wrth iddo ergydio'r bêl o tua 35 llath i gefn y rhwyd. Fe aeth y gêm i amser ychwanegol ac fe enillodd Hereford 2-1.
Ronnie Radford, scorer of one of the most iconic goals in FA Cup history, has died at the age of 79.
— Ollie Bayliss (@Ollie_Bayliss) November 2, 2022
Radford’s strike helped non-league Hereford United upset top-flight Newcastle United in the third round in 1972.pic.twitter.com/LbG1cEnUTL
Gorffennodd ei yrfa gyda Worcester City fel hyfforddwr a chwaraewr yn 1974.
Roedd ei gôl eiconig wedi cael ei gynnwys yn bennod chwaraeon o'r rhaglen teledu 100 Greatest, oedd yn nodi'r 100 foment orau mewn chwaraeon.
Llun: FA Cup