Brwydr gyfreithiol Aberdyfi yn gyfle i 'ddod â'r gymuned at ei gilydd'
Brwydr gyfreithiol Aberdyfi yn gyfle i 'ddod â'r gymuned at ei gilydd'
Mae brwydr gyfreithiol Aberdyfi wedi bod yn gyfle i 'ddod â'r gymuned yn ôl at ei gilydd', yn ôl un sydd wedi byw yno erioed.
Daeth cadarnhad ddydd Mercher fod y Goruchaf Lys wedi gwrthod rhoi caniatâd cynllunio i adeiladu 400 o dai yn y pentref.
Bwriad cwmni Hillside Parks Ltd. oedd defnyddio caniatâd cynllunio o 53 o flynyddoedd yn ôl er mwyn adeiladu dros 400 o dai yn Aberdyfi.
Mae Catrin O'Neill yn gantores werin ac wedi byw yn Aberdyfi erioed, a dywedodd hi wrth Newyddion S4C bod y frwydr gyfreithiol nawr yn cynnig y cyfle i uno'r gymuned unwaith yn rhagor.
"Mae o 'di dod â ni at ein gilydd, mae o 'di creu sens o gymuned sydd 'di bod ar goll yn y pentref achos does 'na ddim llawer o gymuned ar ôl yn Aberdyfi - mae o 'di mynd, 'dan ni wedi colli'r deintydd, y doctor, pan o'n i'n fach, oedd 'na dri banc a gymaint o fusnesa' gwahanol," meddai Catrin.
"'Dan ni'n gobeithio fydd hwn yn gyfle i ni gydweithio fel cymuned gyda'r bobl sydd 'bia'r tir, gyda Cyngor Gwynedd, gyda Parc Eryri i creu tai er mwyn pobl lleol."
Er bod y frwydr wedi mynd ymlaen ers blynyddoedd ac wedi achosi llawer o bryder i'r pentref, yn ôl Catrin, mae'n gyfle i droi rhywbeth negyddol yn rhywbeth cadarnhaol.
"Ma' 'na gyfle rŵan i droi hwn mewn i rywbeth positif iawn, i ni greu datblygiad llai a mwy sensitif, i greu cartrefi ac i ni ddechrau trio ailadeiladu beth sydd ar ôl o'r gymuned yn y pentref 'ma," meddai.
Dyfarnodd y Goruchaf Lys ddydd Mercher fod y "datblygiad yn anghyson gyda chaniatâd cynllunio 1967 ac felly mae hi'n amhosib i ddatblygu ar y safle" a bod "datblygiadau eraill yn dangos fod y datblygwr wedi methu â dangos ei fod wedi sicrhau unrhyw ganiatâd cynllunio."