Newyddion S4C

Rishi Sunak i fynychu cynhadledd hinsawdd COP27

02/11/2022
Rishi Sunak Prif Weinidog

Fe fydd y Prif Weinidog Rishi Sunak yn mynychu cynhadledd hinsawdd COP27 yn Yr Aifft yn dilyn amheuon na fyddai'n mynd. 

Roedd Rhif 10 Downing Street wedi datgan yn gynharach na fyddai Mr Sunak yn mynd gan ei fod yn rhy brysur yn paratoi ar gyfer y datganiad ariannol ar 17 Tachwedd. 

Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol ddydd Mercher, dywedodd y Prif Weinidog: "Nad oes ffyniant hir-dymor heb weithredu ar newid hinsawdd."

Ddydd Mawrth, fe wnaeth cyn brif weinidog y DU, Boris Johnson, gadarnhau y byddai'n mynychu'r gynhadledd yn ogystal ag Arlywydd yr UDA, Joe Biden, ac Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron. 

Wrth siarad yn Sesiwn Gwestiynau'r Prif Weinidog ddydd Mercher, dywedodd Mr Sunak nad oes yna "sicrwydd ynni heblaw ein bod yn buddsoddi mewn egni adnewyddadwy, a dyna pam y byddaf yn mynychu COP27 yr wythnos nesaf er mwyn gweithredu ar waddol y gynhadledd yn Glasgow er mwyn creu dyfodol diogel, glan a chynaliadwy."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.