Buddsoddi yn Llyn Celyn er mwyn gwella gwytnwch yr argae
Bydd Dŵr Cymru yn buddsoddi yn Llyn Celyn er mwyn gwella gwytnwch yr argae yn ystod y degawdau nesaf.
Mae Dŵr Cymru wedi cyflwyno cais cynllun i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ar gyfer y datblygiadau y maent yn gobeithio eu gwneud yn y gronfa ger y Bala.
Fe gafodd cronfa ddŵr Llyn Celyn ei hagor ym 1965 wedi i bentref Capel Celyn gael ei foddi er mwyn creu'r argae.
Er bod un gorlifan yn bodoli eisioes yn y gronfa, mae Dŵr Cymru wedi cyflwyno cynlluniau er mwyn adeiladu gorlifan newydd i ddelio â'r lefelau dŵr uchel.
Dywedodd Pennaeth Diogelwch Argaeau Dŵr Cymru "fel pob cronfa ddŵr fawr arall, mae Llyn Celyn yn cael ei harchwilio’n rheolaidd. Canfu’r archwiliad 10 mlynedd a gyflawnwyd gan beiriannydd annibynnol yn 2019 fod Llyn Celyn mewn cyflwr da, ond gwnaed ambell i argymhelliad i uwchraddio’r safle.
"Mae’r argymhellion hyn yn fandadol, a rhaid eu rhoi ar waith cyn pen 5 mlynedd."
Ychwanegodd mai "un o’r argymhellion oedd dod o hyd i ffordd o ddelio â lefelau neilltuol o uchel o ddŵr er mwyn lleihau’r angen am ymyrraeth ddynol.”
Mae'r gronfa yn cael ei defnyddio at amryw o ddibenion, gyda'r pwerdy hydro yno yn cynhyrchu trydan i'r Grid Genedlaethol a chynorthwyo pysgota lleol.
Os bydd y caniatâd cynllunio yn cael ei gymeradwyo, mae disgwyl i'r gwaith ddechrau yng ngwanwyn 2023 gyda'r gwaith yn cael ei gwblhau erbyn 2025. `