Newyddion S4C

Cynnydd mewn gwerthiant tân gwyllt wedi i ddigwyddiadau cyhoeddus gael eu canslo

ITV Cymru 03/11/2022
tan gwyllt

Mae cynnydd sylweddol wedi bod yng ngwerthiant tân gwyllt i'r cyhoedd yn dilyn gohirio arddangosfeydd ar hyd y DU, yn ôl manwerthwyr.

Mae dinasoedd gan gynnwys Caerdydd, Leeds a Manceinion wedi canslo eu digwyddiadau noson tân gwyllt oherwydd pwysau cyllidebol ar awdurdodau lleol yng nghanol yr argyfwng costau byw.

Mae Cadeirydd Cymdeithas Tân Gwyllt Prydain (BFA) a'r manwerthwr tân gwyllt Steve Raper yn dweud bod gwerthiant nwyddau gan ei gwmni wedi cynyddu rhwng 30% a 50% ers y llynedd.

Dywedodd y BFA fod diddordeb enfawr gan bobl sydd am weld arddangosfeydd tân gwyllt, ond bod pwysau cynyddol ar awdurdodau lleol wedi arwain at ganslo llawer ohonyn nhw.

Mae Caerdydd, Manceinion, Lerpwl, Leeds, Glasgow, Norwich, Dundee a Nottingham ymhlith y dinasoedd sydd wedi canslo digwyddiadau.

Fis diwethaf, dywedodd Cyngor Dinas Manceinion eu bod wedi penderfynu canslo'u digwyddiadau tân gwyllt, oherwydd y gost gynyddol ar gynnal arddangosfeydd a'r mesurau diogelwch, yn ogystal â nod y cyngor o fod yn ddinas garbon sero net erbyn 2038.

Mae'r BFA yn atgoffa pobl i ddarllen y cyfarwyddiadau diogelwch ar dân gwyllt bob tro, ac i adael eu cymdogion gael gwybod os ydynt am ddefnyddio tân gwyllt yn eu gerddi.

Dywedodd y manwerthwr Fireworks Kingdom wrth ITV Cymru Wales bod nifer o bobl wedi bod yn prynu tân gwyllt.

Dywedodd Richard Hogg o gwmni Brothers Pyrotechnics, bod teuluoedd yn dod at ei gilydd i brynu tân gwyllt a chynnal arddangosfeydd gartref eleni.

Ychwanegodd fod y cwmni wedi gweld cynnydd o rhwng 15% i 20% mewn gwerthiant ar-lein, tra bod gwerthiant cyffredinol bron 25% yn uwch na’r llynedd. 

Mae'r gwasanaethau tân ac achub ledled y DU yn annog pobl i fynd i arddangosfeydd proffesiynol yn hytrach na chynnal digwyddiadau tân gwyllt yn eu cartrefi.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.