Newyddion S4C

Dod i adnabod cast Gogglebocs Cymru

02/11/2022
S4C

Wrth i gyfres Gogglebocs Cymru gael ei darlledu ar S4C am y tro cyntaf nos Fercher, dyma gyfle i ddod i adnabod rhai o wynebau'r gyfres.

Bethany, Sammy a Kelly

Image
Bethany, Sammy a Kelly

Mae Bethany, Sammy a Kelly yn ffrindiau sy'n dod o Faerdy yn Rhondda Cynon Taf. 

Mae Bethany yn gweithio yn adran addysg Llywodraeth Cymru tra bod Sammy yn gymhorthydd dosbarth ysgol gynradd a Kelly yn was sifil. 

Stephen, Mike a Huw

Image
Stephen, Mike a Huw

Mae Stephen, Mike a Huw yn dod o Frynaman yn wreiddiol ond bellach wedi symud oddi yno. 

Mae Huw yn 62 oed ac wedi ymddeol fel rheolwr peirianneg ac yn mwynhau perfformio. Mae hefyd yn gefnogwr brwd o glwb pêl-droed Wrecsam. 

Mae Mike yn 64 oed ac yn gweithio i Lywodraeth Cymru ac yn cefnogi clwb pêl-droed Dinas Caerdydd. 

Abertawe mae Stephen yn ei gefnogi, ac mae'n gyfrifydd i'r cyngor lleol. 

Marcus a Vicki

Image
Marcus a Vicki

Mae Marcus a Vicki yn ffrindiau o Ben-y-bont ar Ogwr, ond mae Marcus bellach yn byw yng Nghaint. 

Nid oedd Marcus yn siarad Cymraeg yn ystod ei blentyndod ac mae e,  a Vicki, sy'n ddiddanwr plant, wedi dysgu Cymraeg. 

Mae Marcus hefyd yn aelod o'r Wal Goch ac yn gefnogwyr brwd tîm pêl-droed Cymru. 

Rachel a Mollie

Image
Rachel a Mollie

Mae Rachel a Mollie yn fam a merch o Gaerdydd, gyda Rachel yn was sifil a Mollie yn gweithio yn rhan amser yn archfarchnad ASDA ac hefyd yn astudio drama yn y coleg. 

Olivia, George a Nia

Image
Olivia George a Nia

Mae Nia a'i phlant, Olivia a George, yn byw yn Llanelli. 

Mae Nia yn gyn weithiwr cyngor, a bellach yn gofalu am ei mab George, 20, sydd yn byw â chyflwr spina bifida. 

Mae Olivia yn 16 oed ac eisiau bod yn feddyg ac mae hi hefyd yn chwaraewraig rygbi frwd sy'n chwarae deirgwaith yr wythnos i'r tîm merched lleol.

Osian a Nayema

Image
Osian a Nayema

Mae Osian a Nayema yn briod ac yn byw yng Nghaernarfon.

Mae Nayema yn berchen ar gwmni harddwch tra bod Osian yn brif swyddog adran chwaraeon Cyngor Sir Conwy.

Gwynant a Stephen

Image
Gwynant a Stephen

Mae Gwynant a Stephen yn ffrindiau o Dalsarnau, gyda Gwynant yn ffermio a Stephen yn gweithio i adran ailgylchu Cyngor Gwynedd.

Mae Stephen hefyd yn helpu Gwynant â'r gwaith ar y fferm. 

Cian a John

Image
Cian a John

Mae John a'i ŵyr, Cian, yn dod o Borthmadog.

Mae Cian yn gweithio i gwmni teledu Rondo.   

Rebecca, Natalie ac Elen

Image
Rebecca, Natalie ac Elen

Mae Rebecca, Natalie ac Elen yn ffrindiau sy'n byw yn Wrecsam.

Mae Elen a Natalie yn gweithio fel derbynyddion yng Ngholeg Cambria tra bod Rebecca, sy'n wreiddiol o Ynys Môn, yn gweithio mewn siop optegydd.

Dafydd a Glain

Image
Dafydd a Glain

Yn Ninbych mae Dafydd a Glain yn byw, gyda Dafydd yn arfer bod yn gigydd ond bellach wedi ymddeol. 

Asesu gofalwyr yw swydd Glain ers 20 mlynedd. 

Mark a Carwyn

Image
Mark a Carwyn

Yn wreiddiol o Benygroes, mae Carwyn bellach yn gweithio ym maes gofal iechyd preifat ym Manceinion tra bod ei ffrind gorau, Mark, yn gweithio i'r adran bensiynau ym Manceinion. 

Mae Mark yn byw yn Bolton gyda ei bartner, Chris. 

Sioned a Phillip

Image
Sioned a Phillip

Mae Sioned a Phillip yn byw yn Llanllyfni.

Mae Phillip yn feddyg ymgynghorol yn arbenigo ym maes y pen a'r gwddf yn Ysbyty Gwynedd. 

Bydd modd gwylio’r bennod gyntaf erioed o Gogglebocs Cymru nos Fercher am 21:00 ar S4C neu S4C Clic a BBC iPlayer.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.