Pennaeth heddlu De Korea yn teimlo 'cyfrifoldeb' dros drychineb Seoul

Mae pennaeth heddlu De Korea wedi dweud ei fod yn teimlo "cyfrifoldeb" dros y trychineb yn Seoul a laddodd mwy na 150 o bobl.
Cafodd 156 o bobl eu lladd a mwy na 15o eu hanafu yn dilyn gwasgfa yn ardal Itaewon y brifddinas, wrth i dorfeydd mawr gael eu gwthio lawr strydoedd cul.
Dywedodd Yoon Hee-keun, pennaeth yr Asiantaeth Heddlu Cenedlaethol, yr oedd nifer o alwadau wedi'u gwneud ynglŷn â damweiniau posib yn yr ardal cyn i'r trychineb ddigwydd.
Ychwanegodd fod y rheolaeth o'r dorf yn "anaddas" wrth i 137 o swyddogion heddlu geisio rheoli mwy na 100,000 o bobl.
Darllenwch fwy yma.
Llun: Llywodraeth De Korea