
‘Gwaith mawr’ gan S4C i sicrhau ei bod ar fwy o blatfformau digidol
‘Gwaith mawr’ gan S4C i sicrhau ei bod ar fwy o blatfformau digidol
Mae gan S4C “waith mawr” i wneud yn siŵr ei bod ar gael ar fwy o blatfformau digidol, yn ôl prif weithredwr y sianel.
Roedd Sian Doyle yn siarad gyda Newyddion S4C wrth i S4C ddathlu 40 mlynedd o fodolaeth ddydd Mawrth.
Ond roedd Ms Doyle yn sicr na fyddai darlledu llinol – sef gwylio rhaglenni’n fyw ar deledu - yn “diflannu”.
“Ma’ gwaith mawr gyda ni i ‘neud i ‘neud yn siŵr bo ni ar gael le ma’ bobl yn moyn gweld ni a ma’ Mesur y Cyfryngau ‘dan ni’n gobeithio fydd yn dod trwyddo yn y Senedd yn gyflym iawn yn mynd i helpu hynny yng Nghymru oherwydd ma’ hwnna’n mynd i gadarnhau pa mor bwysig ydy S4C yn ddigidol yn ogystal ag yn llinol,” meddai.
“Dwi ddim yn gweld llinol yn diflannu o gwbwl achos pan fydd rhywun ishe gwylio Cymru’n chwarae’n fyw neu ishe gweld y newyddion, ma’ hwnna’n rhan o fywyd ac ishe gweld yn llinol ac yn fyw.
“Os ‘ych chi’n edrych ar be’ mae pobol yn darogan sydd mynd i ddigwydd, mae llinol yn mynd i fod yma am amser hir iawn.”
Fel rhan o’r gwaith o sicrhau presenoldeb S4C ar fwy o lwyfannau digidol, mae gwasanaeth ar-alw S4C Clic yn cael ei ailwampio ar hyn o bryd.
Ond gyda’r argyfwng costau byw yn effeithio ar rannau helaeth o gymdeithas, mae effaith ar y sector greadigol yng Nghymru, gyda chwestiynau hefyd am ddyfodol y ffî drwydded sy’n ariannu’r BBC – corfforaeth sy’n darparu newyddion ar deledu a chyfresi fel Pobol y Cwm i S4C.
“Mae’r costau yn cynyddu ar draws ein partneriaethau ni gyd, dim dim ond gyda’r BBC,” meddai.
“‘Yn ni wedi bod yn trafod gyda TAC wythnos diwetha’. Mae’n her fawr i bawb fel bo ni yn helpu gymaint â gallwn ni ac yn cyd-weithio mewn partneriaeth gyda ein cwmnïau ni gyd ar draws Cymru.”

'S4C yn fyd-eang'
Fel rhan o ddathliadau pen-blwydd S4C fe fydd cyngerdd yn cael ei chynnal yn Efrog Newydd.
Ond yn wyneb yr argyfwng costau byw a’r heriau ariannol sy’n wynebu nifer ar hyn o bryd, mae Ms Doyle yn teimlo bod hi’n bwysig bod cynnwys S4C yn cael ei werthu i gynulleidfa fyd-eang.
“’Yn ni’n neud hwnna mewn partneriaeth gyda’r FAW a’r Llywodraeth a pwrpas hynny ydy er mwyn sôn am S4C yn fyd-eang ond i ddod â mwy o arian i fewn,” meddai.
“So ma’r cyngerdd, ma’ ‘na dwy neu dair pwrpas iddo fe, un i ddathlu’r pen-blwydd, dathlu Cwpan y Byd, a Cymru cyn gêm Cymru America, ond hefyd ‘neud yn siŵr bo ni yn dechrau’r partneriaethau busnes ‘ma i ddod â arian ‘nôl mewn i Gymru.”
Wrth adlewyrchu ar 40 mlynedd ers sefydlu’r sianel deledu Gymraeg hir-ddisgwyliedig, dywed Sian Doyle ei bod hi’n “hynod o lwcus” i gael arwain y sianel i’r dyfodol.
“Dwi’n hynod o lwcus i fod yn y swydd a yn edrych ymlaen am y 40 mlynedd nesaf,” meddai.
“Dwi jyst ishe dweud diolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o S4C am y 40 mlynedd a’r partneriaethau, a gymaint o gefnogaeth mae’r sianel wedi gael.”