Rhybuddion i beidio â gadael pwmpenni mewn coedwigoedd

Wrth ffarwelio â Chalan Gaeaf, mae Ymddiriedolaeth Coed Cadw yn rhybuddio pobl i beidio â gadael pwmpenni yn y goedwig ar ôl eu defnyddio.
Er bod pobl yn aml yn cael eu hannog i adael hen bwmpenni yn y goedwig, mae’n gallu achosi niwed difrifol i anifeiliaid ac ecosystemau, medd yr ymddiriedolaeth.
Maen nhw’n gallu cael effaith arbennig o niweidiol ar ddraenogod wrth iddyn nhw baratoi i aeafgysgu, ac yn aml mae’n golygu eu bod yn ei chael hi'n anodd i oroesi.
Mae pwmpenni hefyd yn medru achosi dolur rhydd i ddraenogod, gan arwain yn aml at golli pwysau.
Mae Coed Cadw wedi rhybuddio, yn enwedig mewn ardaloedd trefol, y gall pwmpenni sy'n cael eu taflu ddenu llygod mawr.
Gall y llanast sydd yn cael ei adael ar eu hôl hefyd fod yn anodd i’w glirio, gyda Choed Cadw yn dweud bod hynny'n rhoi straen ar eu hadnoddau fel elusen.
Yn hytrach na gadael hen lysiau yn y goedwig, y cyngor ydy i’w defnyddio ar gyfer coginio cawl, neu fwydo adar ac anifeiliaid sy'n gallu bwyta pwmpenni.
Llun: PA