Menyw anabl yn 'garcharor yn ei chartref ei hun' oherwydd llety anaddas yn y Barri

Mae Nadya Walker, 34, a'i mam Patsy Cann, 65, wedi byw mewn byngalo yn y Barri ers 2019, ond yn dweud ei fod yn "anaddas" ar gyfer anghenion meddygol Nadya.
Mae gan Nadya syndrom Down, ac mae hi hefyd yn dioddef o broblemau calon ac ysgyfaint, symudedd cyfyngedig ac fe gafodd ddiagnosis o scoliosis yn ddiweddar.
Mae rhaid i’r ddwy ddringo grisiau serth bob tro i adael y tŷ, ac ni all Nadya wneud hyn bellach. Mae yna hefyd lwybr hir sydd yn “rhy beryglus” i ddefnyddio cadair olwyn - mae Nadya wedi cael damwain ar y llwybr yma o’r blaen. Yn ôl doctoriaid Nadya, mae hi mynd i “waethygu’n raddol”.
Er bod Patsy yn gwneud ceisiadau cyson am dai sydd yn cwrdd ag anghenion Nadya, maen nhw wedi bod yn aflwyddiannus.
Mae gan Patsy osteoarthritis a phroblemau symudedd ei hun, sydd yn ei gwneud hi’n anodd i ofalu am Nadya.
Yn ôl Patsy Cann, mae'n sefyllfa anodd : "Trist iawn rili. Dwi'n casáu gweld hi mewn poen, dwi wir yn. A dwi'n gallu ei chlywed hi'n crio yn ystod y nos yn y gwely wrth geisio troi.”
Mae 89,246 o bobl ar y restr aros am dai yng Nghymru ar hyn o bryd, a 7,547 ar restrau aros am dai cymdeithasol ym Mro Morgannwg.
Dywedodd llefarydd dros Gyngor Bro Morgannwg eu bod yn “ymwybodol iawn” o sefyllfa Nadya ac eu bod nhw'n gwneud popeth y gallai i’w chynorthwyo hi.
“Mae anghenion Nadya wedi cael eu hasesu gan Therapydd Galwedigaethol sydd wedi argymell ei bod hi’n cael byw mewn byngalo cwbl hygyrch neu fflat llawr gwaelod sydd ag ystafell wlyb a mynedfa wastad. Yn anffodus, mae prinder o'r math yma o gartrefi sydd wedi arwain at oedi cyn ailgartrefu,” medd y Cyngor.
Pan ofynnwyd pam nad yw rhai defnyddwyr cadair olwyn yn cael cynnig cartrefi sy'n addas ar gyfer eu hanghenion, eglurodd y Gweinidog Cartrefi, Julie James AS, fod y ffordd mae tai'n cael eu haddasu wedi newid.
"Rydyn ni wedi tynnu'r modd o brofi am addasiadau maint canolig ac rydyn ni wedi galluogi ein hawdurdodau lleol gyda grantiau llawer mwy i wneud yr addasiadau'n gyflymach.
"Felly rydym ni'n awyddus iawn, iawn bod pobl yn cael yr addasiadau maen nhw’n eu hangen i'r tai, fel bod nhw'n gallu cael mynediad iddyn nhw. Wedyn, pan fyddwn ni'n adeiladu'n newydd, rydyn ni'n adeiladu tai sy'n lefel, sydd â drysau llydan."