Cynnal Marathon Eryri am y tro cyntaf ers tair blynedd

29/10/2022
marathon eryri

Cynhaliwyd Marathon Eryri ddydd Sadwrn am y tro cyntaf ers 2019 oherwydd y pandemig.

Fe wnaeth pentref Llanberis groesawu 3,000 o redwyr o 25 o wledydd i gystadlu ar hyd y cwrs trwy Fwlch Llanberis, Nant Gwynant i Waunfawr ac yn ôl i Lanberis.

Dyma un o rasys marathon ffordd mwyaf heriol yn y DU.

Daniel Kashi, Rhodri Owen a Michael Taylor oedd yn gyntaf, ail a thrydydd yn ras y dynion.

Caroline Brook enillodd ras y menywod gyda Claire Pattison yn ail a Llinos Jones yn drydydd.

Dyma rai o luniau'r diwrnod:

Image
Marathon Eryri
Image
Marathon Eryri
Image
Marathon Eryri
Image
Marathon Eryri

Lluniau gan: Dave Humphreys, Eirian Roberts, a Dawn Lloyd

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.