Newyddion S4C

Dau gefnogwr yn rhannu eu profiadau o erchyllterau trychineb Hillsborough

Y Byd ar Bedwar 31/10/2022

Dau gefnogwr yn rhannu eu profiadau o erchyllterau trychineb Hillsborough

Mae dau ffrind o Wynedd oedd yn nhrychineb Hillsborough yn 1989 wedi rhannu eu profiadau gyda'i gilydd am y tro cyntaf. 

Roedd Mark Williams o Dremadog, ac Ian Williams o Flaenau Ffestiniog, yn eu hugeiniau cynnar pan yrron nhw i Stadiwm Hillsborough i wylio Lerpwl yn chwarae Nottingham Forest yn rownd gyn-derfynol Cwpan yr FA ar 15 Ebrill 1989. 

Bu farw 97 o ddynion, menywod a phlant o ganlyniad i’r wasgfa a ddigwyddodd yn eisteddle Leppings Lane, ac mae miloedd wedi parhau i fyw gydag effeithiau seicolegol y trychineb.

Roedd Ian a Mark yn gyd-weithwyr pan wnaethon nhw’r daith i fyny o Borthmadog i Sheffield ac yn nôl. Yn ystod y daith adref, ddywedon nhw ddim gair wrth ei gilydd am y trychineb. 

Am flynyddoedd mae’r ddau ffrind wedi ceisio ymdopi gydag atgofion o’r diwrnod ar eu pen eu hunain, ac yn ystod y blynyddoedd i ddilyn fe wnaeth y ddau ddioddef gydag iselder. 

Wrth siarad ar raglen Y Byd ar Bedwar ar S4C dywedodd Mark: “Gafon na ddim gair i ddweud holl ffordd nôl i Borthmadog. Yr unig adeg wnaethon ni siarad oedd i stopio’r car i ffonio adra mewn kiosk yn ryw bentre’ bach,” meddai Mark. 

Image
Mark a Ian

Ychwanegodd Ian: “O sioc yn fwy na dim byd swni’n feddwl. Roedd hi’n ddigalon o ddiwrnod i ddweud y gwir.” 

Tra gwnaeth Ian lwyddo i ddianc o’r wasgfa, fe gafodd Mark ei ddal yng nghorlan tri, lle’r roedd y wasgfa ar ei gwaethaf, cyn dianc i’r cae. 

"Newid bywydau rhywun. Newid bywyd," yw sut mae Mark yn disgrifio'r diwrnod.

“Dydy o ddim yn beth hawdd i siarad amdano fo i ddechrau. Lle ma rywun yn dechrau siarad am ffasiwn ddiwrnod?" meddai.

Ychwanegodd Ian: "Dwi’n meddwl o ni reit breifat amdano fo hefyd, ac o ni’n ifanc hefyd. Dwni'm os oni’n trio bod yn bravado. Fel o ni’n mynd yn hŷn, oedd yr iselder fel tasa fo’n mynd ‘chydig bach yn waeth.” 

Mae Ian a Mark yn siarad mewn rhaglen sy’n ymchwilio i’r cymorth seicolegol y mae'r rhai oedd yn Hillsborough wedi ei dderbyn. 

Dywedodd Mark y byddai wedi derbyn cymorth ychwanegol petai hynny wedi cael ei gynnig iddo ar y pryd ac yn y blynyddoedd i ddilyn.

“Oedd pobol yn gweld ni fatha’r rhai oedd di goroesi, oeddan ni dal yn fyw, get on with it.” 

Pedwar hunanladdiad eleni 

Mae’r Hillsborough Survivors Support Alliance (HSA), sefydliad sy’n cynnig cymorth i’r rhai oedd yno, yn gwybod am o leiaf pedwar o’r rhai oedd yn Hillsborough sydd wedi cyflawni hunanladdiad eleni. 

Fe ddywedodd Peter Scarfe o’r sefydliad, oedd hefyd yn Hillsborough, fod hi’n gyffredin iawn i’r rhai oedd yno i beidio â siarad gyda’i gilydd am yr hyn ddigwyddodd. 

Image
Mark a Peter

Mae Peter yn dweud fod hyn yn rhannol oherwydd bod cefnogwyr Lerpwl wedi cael eu cyhuddo o fod yn gyfrifol am y trychineb, ac o fod yn feddw a heb dicedi. Yn ôl Peter fe wnaeth hyn achosi i gefnogwyr deimlo’n euog a’u gorfodi nhw i ddioddef yn dawel. 

“Yn 2019 fe gwrddais i ag un dyn trwy’r sefydliad oedd wedi teithio mewn bws gyda 13 o bobl eraill i Hillsborough. Fe ddaeth pob un ohonyn nhw adref, ond rhwng 1989 a 2019, roedd chwech ohonyn nhw wedi cyflawni hunanladdiad. Mae hynny’n chwech yn ormod,” meddai. 

Yn 2019 fe wnaeth y HSA greu math o therapi sydd wedi ei deilwra yn arbennig ar gyfer goroeswyr Hillsborough. Does yna ddim byd tebyg wedi ei greu o’r blaen.

‘Rioed ‘di meddwl amdana fo fel ‘na’ 

Ar ôl dioddef gyda’i iechyd meddwl ar ôl y trychineb am dros i dri degawd, mae Y Byd ar Bedwar yn dilyn taith Mark Williams o Borthmadog i weld os allai therapi'r HSA ei helpu. 

“Fyddai i yn stryglo yn ddiawledig weithia, ac yn cloi fy hun fyny,” meddai Mark. 

Mae sefydliad yr HSA yn galw am ragor o gefnogaeth gan Gymdeithas Bêl-droed Lloegr, oedd yn gyfrifol am ddewis Hillsborough fel lleoliad y gêm yn 1989. 

Mae Peter Scarfe o’r HSA yn galw ar y Gymdeithas i “wrando a chynnig cymorth”. 

“Ry ni’n ‘neud e ar ein pen ein hunain,” meddai. "Does gyno ni ddim arian i bara am byth, ac fe alle' ni gyrraedd pwynt lle mae’n rhaid i ni droi rownd a dweud, sori, fedrwn ni ddim eich helpu chi, a dydyn ni ddim isho gwneud hynny.” 

Wrth ymateb i sylwadau’r sefydliad fe ddywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Bêl-droed Lloegr eu bod nhw’n cydnabod y gefnogaeth werthfawr mae grwpiau goroeswyr Hillsborough yn ei ddarparu. 

Dywedodd y gymdeithas fod eu meddyliau nhw bob amser gyda’r rhai oedd yno ac y bydden nhw’n parhau i wrando a chyfarfod gyda’r grwpiau hynny. 

Beth ddigwyddodd yn Hillsborough? 

Wrth i’r gic gyntaf nesáu fe wnaeth torf fawr gasglu tu allan i fynedfa Leppings Lane. Dan bwysau i reoli’r dorf fe wnaeth y prif heddwas ar y dydd, y Prif Arolygydd David Duckenfield orchymyn fod giât C yn cael ei hagor.

Yna fe wnaeth 2000 o gefnogwyr Lerpwl lifo i mewn i gorlannau oedd yn barod yn orlawn, gan achosi gwasgfa. Fe wnaeth 96 o gefnogwyr golli eu bywydau ac fe gafodd cannoedd eu hanafu.

Bu farw person yn 2021 ar ôl dioddef o anafiadau wnaeth newid ei fywyd yn y trychineb, a hynny y 97fed i golli eu bywyd o ganlyniad i'r trychineb.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.