Cymeradwyo cynllun i godi ysgol gynradd Gymraeg newydd yn Sir Benfro
Mae cynllun i godi ysgol gynradd Gymraeg newydd ym Mhenfro wedi ei gymeradwyo.
Fe fydd Ysgol Gymraeg Bro Penfro yn darparu addysg i 210 o ddisgyblion rhwng pump ac 11 oed yn ogystal â 30 lle mewn meithrinfa a Chylch Meithrin ar gyfer plant dan dair oed.
Cafodd y cynlluniau gwreiddiol ar gyfer yr ysgol eu cymeradwyo gan Gyngor Sir Benfro ym mis Hydref yn 2020.
Ym mis Hydref 2022, cafodd cynnydd yng nghost y prosiect o £6.65m i £13.9m ei gymeradwyo gan gabinet y cyngor.
Yn sgil y newid yma, fe wnaeth chwe chynghorydd sir gyfeirio'r penderfyniad at at y pwyllgor craffu er mwyn trafod effaith posib symud i "safle llai heriol".
Yn wreiddiol, roedd yr holl prosiect i fod i'w ariannu gan grant gan Lywodraeth Cymru, ond yn sgil y cynnydd mewn cost mae disgwyl i'r cyngor dalu dros £3m tuag at y costau.
Mewn cyfarfod o'r Pwyllgor Craffu ddydd Gwener, dywedodd y Cynghorydd Jacob Williams y dylai'r penderfyniad gael ei ail-ystyried gan y Cyngor Llawn gan na fyddai'r costau i gyd wedi eu hariannu gan grant.
Ond yn ôl yr aelod â chyfrifoldeb dros Addysg a'r Gymraeg, y Cynghorydd Guy Woodham, fe allai prosiectau'r dyfodol, ac addysg disgyblion y sir, fod yn y fantol pe na bai aelodau'n cytuno i'r newidiadau o ran y gost.
Fe wnaeth pedwar aelod o'r pwyllgor bleileisio i oedi cynlluniau gwreiddiol y cabinet, gyda wyth aelod yn pleidleisio i fwrw ymlaen gyda'r cynllun fel ag y mae.
Yn sgil y bleidlais, mae disgwyl y bydd gwaith adeiladu yn dechrau ar yr ysgol newydd ym mis Mai 2022, gyda'r bwriad o agor y safle erbyn mis Meidi 2023.
Fe fydd yr ysgol yn cymryd lle'r ddwy ffrwd sydd ar gynnig yn Ysgol Gelli Aur.