Newyddion S4C

Elon Musk yn prynu Twitter am $44 biliwn 

28/10/2022
S4C

Elon Musk sydd bellach yn gyfrifol am Twitter ar ôl prynu’r cyfrwng cymdeithasol am $44 biliwn.

Yn gynnar fore ddydd Gwener daeth cadarnhad mai Mr Musk sydd yn gyfrifol am y cwmni a’i fod wedi diswyddo'r prif weithredwr Parag Agrawal, y prif swyddog ariannol Ned Segal a'r cwnsler cyffredinol Vijaya Gadde.

Fe wnaeth y biliwnydd gadarnhau adroddiadau yn y cyfryngau am ei feddiant, gan drydar ychydig cyn 5:00 (amser y DU) ddydd Gwener: “mae’r aderyn wedi’i ryddhau”.

Mae disgwyl i Mr Musk siarad â gweithwyr Twitter yn uniongyrchol ddydd Gwener os bydd y fargen yn cael ei chwblhau yn llawn. 

Roedd llys wedi rhoi tan ddydd Gwener i Mr Musk gwblhau ei gytundeb o fis Ebrill i brynu'r cwmni ar ôl iddo geisio tynnu’n ôl o’r cytundeb yn gynharach.

Ddydd Iau, fe bostiodd Mr Musk ddatganiad wedi’i anelu at hysbysebwyr Twitter lle dywedodd ei fod yn prynu’r  platfform oherwydd ei fod yn credu ei bod yn bwysig cael gofod lle “gellir trafod ystod eang o gredoau mewn ffordd iach”.

Daeth hynny ar ôl i’r biliwnydd SpaceX a phennaeth Tesla bostio fideo o Mr Musk yn mynd i mewn i bencadlys Twitter yn San Francisco ddydd Mercher yn cario sinc. 

Yn ôl adroddiadau, dywedodd Mr Musk wrth staff yn ystod ei ymweliad nad yw’n bwriadu torri hyd at 75% o staff Twitter.

Adroddwyd yn flaenorol bod Mr Musk wedi dweud wrth fuddsoddwyr ei fod yn bwriadu torri tua thri chwarter o 7,500 o weithwyr y cwmni.

Mae staff, defnyddwyr Twitter ac arbenigwyr y diwydiant yn aros i weld pa gynlluniau sydd gan Musk ar gyfer y platfform.

Mae Mr Musk wedi awgrymu yn y gorffennol y  byddai’n caniatáu i bobl sydd wedi eu hatal rhag defnyddio Twitter, gan gynnwys cyn-arlywydd yr UD Donald Trump. 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.