Galw etholiad cyffredinol yng Ngogledd Iwerddon ar ôl diffyg cytundeb
Galw etholiad cyffredinol yng Ngogledd Iwerddon ar ôl diffyg cytundeb
Fe fydd etholiad yn cael ei gynnal yng Ngogledd Iwerddon wedi i bleidiau fethu dod i gytundeb i greu llywodraeth newydd.
Dywedodd Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon Chris Heaton-Harris ddydd Gwener y byddai etholiad yn cael ei gynnal, ond nad oedd angen iddo osod dyddiad penodol eto.
“Rwyf wedi gwrando ar arweinwyr y pleidiau, rwy’n mynd i siarad â nhw i gyd eto wythnos nesaf. Ond byddaf yn galw etholiad," meddai.
“Pam ei alw nawr? Oherwydd fy mod yn rhwym yn gyfreithiol i wneud hynny. Rwyf wedi cael llawer a llawer o sgyrsiau gyda’r holl bleidiau a byddaf yn parhau i wneud hynny.
“Rwy’n clywed y neges fydd pleidiau’n dweud nad ydyn nhw wir eisiau etholiad o gwbl, ond mae bron pob un ohonyn nhw’n bleidiau sydd wedi ymrwymo i’r gyfraith sy’n golygu bod angen i mi alw etholiad.
“Felly byddwch chi'n clywed mwy gen i ar y pwynt penodol hwnnw yr wythnos nesaf.”
Ethol llefarydd
Fe wnaeth y cynulliad ym Melfast fethu ag ethol llefarydd newydd yn ystod sesiwn ddydd Iau - rôl sydd angen ei llenwi cyn ffurfio llywodraeth newydd.
Daw hyn wedi i'r DUP wrthod cydweithio gyda'r sefydliad datganoledig mewn gwrthwynebiad i'r Protocol Gogledd Iwerddon.
Roedd y blaid wedi dweud na fyddai'n ystyried cydweithio er mwyn ffurfio llywodraeth tan fod y rhwystrau economaidd rhwng Gogledd Iwerddon a Phrydain Fawr sydd wedi'u gosod gan y protocol yn cael eu codi.
Fe gafwyd etholiad yn y rhanbarth ym mis Mai, pan ddaeth Sinn Fein yn blaid fwyaf yn lle'r DUP - y tro cyntaf yn hanes y cynulliad yng Ngogledd Iwerddon i blaid weriniaethol ennill y nifer fwyaf o seddi.
Cydweithio
Mae arweinydd y DUP, Syr Jeffrey Donaldson, wedi dweud bod y blaid wedi gwrthod cydweithio i greu llywodraeth oherwydd nad oes digon o gynnydd wedi'i wneud i dawelu pryderon dros y protocol.
"Mae gennym fandad clir yn dilyn etholiadau'r Cynulliad, a ni fyddwn yn enwebu gweinidogion i lywodraeth tan fod camau wedi'u cymryd i ddiddymu'r rhwystrau masnachu o fewn ein gwlad ac ailsefydlu ein lle o fewn marchnad fewnol y DU."
Wrth ymateb i'r sefyllfa yn y siambr ddydd Iau, dywedodd arweinydd Sinn Fein, Michelle O’Neill, fod y DUP wedi gadael Gogledd Iwerddon "yn nhrugaredd Llywodraeth Geidwadol greulon a chamweithredol."
"Mae'r rhan fwyaf ohonom yma eisiau gwneud y swydd y cawsom ein hethol i'w gwneud," meddai.