Dyn wedi ei ladd yng Nghaerdydd 'am geisio dwyn canabis gwerth £120,000'
Fe wnaeth aelodau o giang cyffuriau o Albania guro dyn i farwolaeth yng Nghaerdydd ar ôl iddo geisio dwyn o’u ffatri ganabis, yn ôl yr erlyniad mewn achos yn Llys y Goron Casnewydd.
Cafwyd hyd i gorff Tomasz Waga, 23 oed o Dagenham yn nwyrain Llundain, wedi’i adael ar Heol Westville yn ardal Penylan, Caerdydd ar 28 Ionawr y llynedd.
Clywodd y llys fod Mr Waga a thri dyn arall wedi teithio o Lundain i ddwyn o dŷ cynhyrchu canabis y giang ar Heol Casnewydd.
Ar ôl cael gwybod am y digwyddiad, aeth aelodau’r giang i’r eiddo i “amddiffyn eu cyflenwad gwerthfawr o ganabis” ac i "ddysgu gwers" i’r dynion.
Fe honnir bod y grŵp arfog wedi cynnal “ymosodiad creulon” ar Mr Waga a’i gyfaill Carl Davies, gan adael Mr Waga “yn agos i farwolaeth”.
Dywedodd yr erlyniad bod Mr Waga wedi'i daflu i mewn i gar Mercedes arian cyn iddo gael ei gwestiynu am wybodaeth cyn cael ei wthio allan o'r car a'i adael i farw.
Mae Gledis Mehalla, Mihal Dhana, Mario Qato, Josif Nushi a Hysland Aliaj yn gwadu llofruddio Mr Waga.
Mae Nushi, Dhana ac Aliaj hefyd yn gwadu anafu Carl Davies yn fwriadol ac yn anghyfreithlon.
Mae Dhana yn gwadu cynllwynio i gynhyrchu cyffur dosbarth B ac mae Qato yn gwadu cymryd rhan mewn gweithgareddau grŵp troseddol.
Dywedodd Greg Bull KC wrth y rheithgor fod y canabis, oedd werth tua £120,000, yn cael ei dyfu mewn eiddo ar brydles gan y giang a oedd yn esgus eu bod am ei rentu i feddygon yn Ysbyty Brenhinol Gwent.
Nid yw'r car a ddefnyddiwyd i gludo Mr Waga erioed wedi'i ddarganfod er gwaethaf nifer o apeliadau gan yr heddlu.
Mae'r achos yn parhau ac mae disgwyl iddo bara am wyth wythnos.