Yr Almaen yn agosáu at gyfreithloni meddiant o ganabis
Mae gweinidog iechyd yr Almaen wedi datgelu cynllun i gyfreithloni meddiant o ganabis ac i ganiatáu gwerthu’r cyffur i oedolion at ddibenion hamdden yn unig.
Fe fydd awdurdodau'r wlad yn gofyn barn a chaniatád Comiswiwn yr Undeb Ewropeaidd cyn bwrw ymlaen â deddfwriaeth, meddai Karl Lauterbach.
Dywedodd y gallai’r rheolau newydd wasanaethu “fel model ar gyfer Ewrop” ond “yn realistig, na fyddant yn dod i rym cyn 2024”.
Y bwriad fyddai tyfu canabis o dan drwydded a'i werthu i oedolion mewn siopau trwyddedig yn unig, mewn ymgais i reoli'r farchnad ddu. Byddai unigolion yn cael tyfu hyd at dri phlanhigyn, a phrynu neu feddu ar 20-30 gram o fariwana.
Dywedodd Mr Lauterbach nad yw'r Almaen am efelychu'r model sydd yn bodoli yr Iseldiroedd, sy'n gyfuniad o gyreithloni a rheoleiddio'r farchnad.
Ni fyddai siopau fydd yn gwerthu canabis hefyd yn cael gwerthu alcohol neu gynhyrchion tybaco, ac ni fyddai modd eu lleoli yn agos at ysgolion.
Nid yw'r llywodraeth yn bwriadu gosod pris penodol, ond mae'n bwriadu gosod rheolau ar ansawdd, meddai'r gweinidog.
Mae'r cynllun canabis yn un o gyfres o argymhellion yn y cytundeb clymblaid rhwng y tair plaid ryddfrydol gymdeithasol sydd yn ffurfio llywodraeth y Canghellor Olaf Scholz. Fe gytunodd y pleidiau ar y pryd y byddai “effeithiau cymdeithasol” y ddeddfwriaeth newydd yn cael eu harchwilio ar ôl pedair blynedd.