
I Qatar mewn car trydan: Cefnogwyr Cymru'n paratoi am antur fawr
I Qatar mewn car trydan: Cefnogwyr Cymru'n paratoi am antur fawr
Bydd grwp o gefnogwyr pêl-droed Cymru yn gwneud taith 5,000 o filltiroedd i Gwpan y Byd yn Qatar mewn car trydan.
Bydd cyn-bêldroediwr Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd, Scott Young, yn ymuno â Nick Smith, Huw Talfryn Walters a Walter Pennell wrth iddyn nhw yrru ar draws cyfandiroedd i Qatar.
Dywedodd Huw Talfryn Walters mai'r "her rili yw i weld os y mae'n bosib."
Fe fydd y teithwyr yn gadael Pencadlys Cymdeithas Bêl-droed Cymru ym Mro Morgannwg ddydd Gwener, gan deithio yn gyntaf trwy Ffrainc, Gwlad Belg a Slofenia cyn cyrraedd Groeg.
Dywedodd Mr Walters wrth Newyddion S4C: "Ma'r car a'r fan yn mynd ar cwch wedyn draw i Haifa yn Israel ond y'n ni'n hedfan o Athens i Israel a wedyn bydd ni'n gorfod aros am y car am dridie' a wedyn gyrru o Israel lawr trwy Jordan trwy Saudi Arabia a wedyn ar draws yr anialwch yr holl ffordd i Qatar."
Er yn gefnogwyr brwd, yn ôl Huw, y prif reswm am fynd yw er mwyn codi ymwybyddiaeth o yrru ceir trydan.

"Y'n ni gyd yn obsessed gyda pêl-droed a ni ishe bod yna i weld Cymru yn neud yn dda ond yn bwysicach na 'na, ni ishe dod â sylw i'r syniad o gyrru car trydan yma yng Nghymru hefyd a'r problem mwyaf i'r rhan fwyaf o bobl yw faint o bellter ma' nhw'n gallu mynd.
"Ma' neud rwbeth mor eithafol â hwn yn mynd i ddangos bod e'n bosib i newid i car trydan."
Y gobaith yw cyrraedd Qatar ar 17 Tachwedd, cyn cyfarfod tîm Cymru y diwrnod wedyn.
"Y 18fed, y'n ni'n mynd i cwrdd â'r tîm, a bydd 'na negeseuon ar y car, ma' pobl wedi bod yn ysgrifennu ar y car a wedyn byddwn ni'n cyflwyno'r negeseuon 'na wedyn i'r tîm.
"Ma' 'na syniad o defnyddio projector i ddangos rhai o'r negeseuon sydd wedi bod ar y wê a defnyddio'r car i bweru'r projector i ddangos y ffilmie iddyn nhw," ychwanegodd Huw.
Bydd Cymru yn chwarae eu gêm gyntaf yng Nghwpan y Byd ar 21 Tachwedd yn erbyn yr UDA.