Isetholiad Hartlepool: Buddugoliaeth ‘hanesyddol’ i’r Ceidwadwyr

JillMortimer
Mae’r Ceidwadwyr wedi ennill is-etholiad Hartlepool yn Sir Durham.
Dyma'r tro cyntaf i'r blaid ennill y sedd sydd wedi bod yn gadarnle i'r blaid Lafur ers iddi gael ei chreu yn yr 1970au, yn ôl Sky News.
Daw'r fuddugoliaeth yn ergyd fawr i Syr Keir Starmer a "wal goch" y blaid yng ngogledd Lloegr.
Dywedodd ymgeisydd y Ceidwadwyr, Jill Mortimer, fod ennill yr is-etholiad yn “ganlyniad gwirioneddol hanesyddol”.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Jill Mortimer