Cymru trwyddo i wyth olaf Cwpan y Byd
Cymru trwyddo i wyth olaf Cwpan y Byd
Mae tîm rygbi menywod Cymru wedi llwyddo i gyrraedd rownd wyth olaf Cwpan y Byd yn Seland Newydd.
Er iddyn nhw golli yn erbyn Awstralia ddydd Sadwrn yng ngêm olaf y grŵp, mae buddugoliaeth Lloegr o 75-0 yn erbyn De Affrica ddydd Sul yn golygu bod Cymru trwyddo fel un o’r timau trydydd safle gorau.
Yn y grŵp fe gurodd Cymru'r Alban a sicrhau pwynt bonws yn y golled yn erbyn Awstralia ddydd Sadwrn i sicrhau eu lle.
Ond fe fydd gan dîm Ioan Cunningham dalcen caled iawn os ydyn nhw am fynd ymhellach.
Fe fydd Cymru nawr yn wynebu pencampwyr y byd Seland Newydd yn y chwarteri.
Dyma’r eildro y bydd Cymru’n wynebu’r Rhedyn Duon yn y gystadleuaeth ar ôl colli iddyn nhw o 12-56 yn y grŵp.
Er hynny mae capten Cymru, Siwan Lillicrap, yn hyderus y gallai Cymru guro pencampwyr y byd.
Dywedodd: “Mae’n enfawr nawr. D’oes dim second chances , ma’ rhaid i ni wella’n perfformiad. Mae’n rhaid i ni gymryd opportunities a dyna beth ni moyn neud.
"Ro’n ni wedi neud yn dda yn y dauddeg munud cyntaf yn erbyn nhw ond mae’n rhaid i ni neud hwnna am yr wythdeg munud i gael siawns i ennill."
Fe fydd y gêm yn cael ei chwarae yn Whangarei am 07:30 ddydd Sadwrn, 29 Hydref.
Llun: Asiantaeth Huw Evans