
Sioned Harries: 'Es i drwy gyfnod o iselder pan ges i'n gollwng o'r sgwod'

Sioned Harries: 'Es i drwy gyfnod o iselder pan ges i'n gollwng o'r sgwod'
Mae chwaraewr rheng ôl Cymru Sioned Harries wedi siarad yn agored am ei phrofiad o fyw gydag iselder.
Yn ôl Harries, sydd â 67 o gapiau dros ei gwlad, ni wnaeth Undeb Rygbi Cymru ddarparu digon o gefnogaeth i chwaraewyr yn y gorffennol.
Er hyn, mae'n cydnabod bod pethau wedi gwella yn ddiweddar, wrth i'r undeb roi mwy o sylw i'r garfan fenywod.
“'Na i fod yn hollol onest. O'dd yr Undeb mewn chwâl. O'dd dim cefnogaeth i ni merched," meddai.
"Es i drwy gyfnod o iselder pan ges i'n ngollwng o'r sgwod. O'dd hwnna lot i 'neud gyda hunaniaeth a diffyg cefnogaeth yn fwy nag unrhyw beth.”
Mae Undeb Rygbi Cymru yn dweud eu bod nhw'n benderfynol o greu "awyrgylch o'r radd flaenaf" i dîm y merched.
Dychwelodd Harries i garfan Cymru yn 2022 a hynny ar ôl peidio cael ei dewis i gynrychioli ei gwlad am bedair blynedd.
“Nes i ffeindio fe'n rili anodd, ond o'n i'n rili ffodus bod 'da fi pobl dal ynghlwm â'r garfan o'dd yn gallu gweld be' o'dd yn digwydd, ac yn hollol cefnogol o fi," meddai.
“O'dd cariad fi ar y pryd yn hynod o cefnogol. A tynnais i ffrindiau yn agosach, tynnais i teulu yn agosach.”

'Byd o wahaniaeth'
Yn ystod y cyfnod clo bu Sioned yn codi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl.
“Beth nes i yn ystod y cyfnod clo oedd nes i 'Move for Mind'," meddai.
"I fi na'th e roi ffocws fi ar rywbeth arall, ond hefyd dangos i fi pa mor cefnogol ma' rywun yn gallu bod pan ma’ rywun yn sdryglan, ond hefyd pa mor gwerthfawr yw e weithiau i tynnu hunan chi i ffwrdd o amgylchedd sydd yn tynnu chi lawr.”
Bydd Cymru yn wynebu Awstralia yn eu gêm olaf o’u grŵp yn y Cwpan y Byd ddydd Sadwrn, ac ar ôl treulio cymaint o amser i ffwrdd o adref yn ystod yr ymgyrch mae Harries yn ddiolchgar am y gefnogaeth sydd yn eu lle erbyn hyn.
“Erbyn heddi' ma' pethau lot well, ma' 'da ni seicolegydd yn y garfan. Ma' hi 'di bod yn arbennig. Ma' hi 'di bod yn ysgwydd i bawb.
“Chi’n gallu gweld o gwmpas y garfan faint o byd o wahaniaeth ma' di neud cael seicolegydd 'da ni. I hyder, a hunan barch, a hunan werth.
“O'n i'n siarad â un o'r merched pwy ddiwrnod a o'dd hi'n dweud pa mor anodd yw e i bod 'ma achos ma' popeth mor lan a lawr, fel ma'r wythnosau'n mynd, fel ma'r canlyniadau'n mynd.
“Fel nes i dweud wrthi ti siŵr 'di 'neud y Cwpan y Byd mwyaf anodd, achos hwn yw'r pellaf i ti'n gallu bod o dy deulu di. A os ti'n gallu delio gyda hwn galle ti delio gyda unrhyw Cwpan y Byd arall.
“Ma' fe'n hynod o bwysig. A ma' fe'n bwysig bo ni merched yn cefnogi'n gilydd, a ni yn grŵp clos.”
Mewn datganiad mae Undeb Rygbi Cymru yn pwysleisio eu bod nhw wedi penodi seicolegydd perfformiad a'u bod nhw'n benderfynol o greu "awyrgylch o'r radd flaenaf" i dîm y merched.